Y tro yma, Antwn Owen-Hicks sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon.

Dysgwr y Flwyddyn 2024 yw Antwn Owen-Hicks, ar ôl ennill y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni. Mae Antwn yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru, lle mae’n cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg. Mae e’n gyd-sylfaenydd y band gwerin Cymraeg “Carreg Lafar” sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop, a gogledd America. Gyda’i wraig Linda, mae Antwn hefyd wedi dechrau cyfres o gyngherddau acwstig o’r enw “Y Parlwr” er mwyn rhoi llwyfan i artistiaid Cymraeg.


Antwn Owen-Hicks yn perfformio efo Carreg Lafar

Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Dw i’n hoffi pob math o gerddoriaeth – pync, roc, 80s ‘new age’, jazz, blues ac, wrth gwrs, cerddoriaeth werin/traddodiadol o lawer o wledydd a diwylliannau. Ond dw i’n mynd i ganolbwyntio ar ganeuon Cymraeg yma, oherwydd dw i’n credu bod hi’n bwysig i amlygu artistiaid Cymraeg.

Felly, un gân sy’n gwneud i fi deimlo’n hapus yw Bachgen Bach o Dincer gan Yr Hwntws, ar eu halbwm cyntaf. Dyma’r gân werin Gymraeg dechreuodd fy niddordeb mewn cerddoriaeth werin Gymraeg. Felly, pob tro dw i’n clywed y gân yma, mae’n gwneud i fi wenu. Wnaeth ffidil Mike Lease roi sŵn unigryw i’r gân ar y pryd, gyda lleisiau cryf Gregg Lyn a Jethro Newton. Doedd neb arall yn gwneud gwerin Gymraeg fel hyn yn yr 80au.

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Mae’r gân yma yn un sy’n fwy diweddar, sef Tonnau gan Bwncath. Dw i’n hoffi strwythur y gân yn fawr iawn, mae fe’n llawn emosiwn. Mae’r geiriau yn ddwfn iawn, am gylch bywyd, cariad fel y moroedd, a phob un ohonom yn dychwelyd i’r tonnau. Mae’r gân jyst wedi taro tant gyda fi, ac mae’n atgoffa fi o’r ddysgeidiaeth Bwdaeth am dragwyddoldeb bywyd. Hyfryd.

Alffa – Gwenwyn

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Iawn, efallai tamaid bach o roc nawr! Gwenwyn gan Alffa, mae fe’n atgoffa fi o’r adeg pan o’n i’n gwrando ar eitha’ lot o roc psychedelic yn y coleg – Hendrix, Loop ac yn y blaen. Mae yna riff reit ‘catchy’ ynddo fe, ac mae’r alaw a geiriau’r gân yma jyst yn gwneud i fi deimlo fel codi a dawnsio! Dw i wedi gweld nhw’n perfformio sawl gwaith, a wnes i drefnu iddyn nhw ddod mas i ŵyl Geltaidd Lorient yn Llydaw, yn 2022, perfformiadau gwych!

Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?

Mae’r albwm Tro gan Gwyneth Glyn yn arbennig o dda, ac un dw i’n gallu gwrando arno dro ar ôl tro. Mae llais Gwyneth yn hyfryd ac mae’r albwm yn creu awyrgylch i ymlacio iddo, sydd yn bwysig iawn os chi’n sownd ar ynys bell, dw i’n credu! Mae’r caneuon i gyd yn wych. Y ffordd mae hi wedi’u hysgrifennu nhw ac wedi cydweithio gyda cherddorion eraill arno, mae wedi creu rhywbeth arbennig.

Gwyneth Glyn – Tro

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

Yn anffodus, dydw i ddim yn ysgrifennydd caneuon, dw i wedi cyfansoddi rhai alawon, ond nid caneuon fel y cerddorion eraill dw i wedi nodi fan hyn. Felly mae ’na gannoedd o ganeuon y byddwn wedi hoffi eu hysgrifennu! Ond, dw i wedi penderfynu ar un draddodiadol. Dydw i ddim yn gwybod pwy gyfansoddodd yr alaw, neu’r pennill cyntaf. Ond dw i’n deall ysgrifennodd John Ceiriog Hughes yr ail bennill yn y 19eg ganrif. Y gân yw Lloer Dirion Lliw’r Dydd. Wnaeth Carreg Lafar recordio fe, ar ein halbwm Profiad, nol yn 2002, gyda Linda yn ei chanu, llawn emosiwn. Mae’r alaw a geiriau yn hollol hudolus, llawn ystyr a chariad mawr. Mae’r gân yn un o’r goreuon yn ein traddodiad dw i’n credu, barddoniaeth mor brydferth, a cherddoriaeth sydd yn cario’r geiriau fel breuddwyd. Dyna ni!