Y tro yma, Aled Hughes sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon. Mae Aled yn gyflwynydd radio a theledu. Mae’n cyflwyno rhaglen foreol boblogaidd ar BBC Radio Cymru. Mae’n gefnogol iawn o ddysgwyr Cymraeg. Mae Aled hefyd wedi ysgrifennu nofel o’r enw Hela. Eleni roedd e wedi trefnu cystadleuaeth ysgrifennu o’r enw “Sgwennu Stori” i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru.
Mae’n dod o Ben Llŷn yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Ynys Môn. Mae Aled yn rhan o brosiect o’r enw “Ecoamgueddfa”. Nod y prosiect yw dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol Pen Llŷn drwy sicrhau y bydd cymunedau’n gallu ffynnu yn eu milltir sgwâr eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Fel rhan o Ecoamgueddfa, cerddodd Aled 110 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Llŷn a Llwybr y Morwyr. Roedd wedi cofnodi’r daith mewn 15 fideo byr sy’n rhannu straeon difyr a ffeithiau diddorol am bob ardal.
Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Tokomololo a’r gân Seibiant, a Mecsico gan Derw. Mae’r ddwy gân yn rhoi’r teimlad o hapusrwydd. Parisa Fouladi a’i llais cyfoethog yn canu ar ddechrau Mecsico: “Mi ddaw, mor ddistaw â’r cymylau wedi’r glaw…” yn codi gwên yn syth ac mae’r gweddill yn gwneud i rywun fod eisiau neidio ar awyren a mynd i Mecsico yr eiliad yna!
Seibiant wedyn – “Dy jympyr yn cadw dy groen yn gynnas… am dro… yn droednoeth ti’n cofio y gwair… dan gysur cyfforddus yr haul… mae’n gynnes.” A dyna fi, dw i’n hapus!
Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
Mynwent Eglwys gan Casi, Gai Toms, Iestyn Tyne, Sian James, Gareth Bonello, a Gwenan Gibbard. Mi gafodd y cerddorion eu cloi yn Y Llyfrgell Genedlaethol dros nos gan BBC Radio Cymru i bori trwy archif gwerin Merêd [Dr Meredydd Evans, y golygydd, hanesydd a chanwr gwerin Cymraeg] a Phyllis Kinney [ei wraig] ac mi wnaethon nhw greu fersiwn bythgofiadwy o’r gân draddodiadol yma. Mae’r trefniant a’r lleisiau yn rhyfeddol. Ar ôl ei chwarae ar fy rhaglen, mi ges i e-bost i ddweud bod Mynwent Eglwys ganddo ni yn ddiogel fel gwlad ar ôl i Merêd ofyn i deulu o Batagonia oedd yn ei chanu ers i’w cyndeidiau ymfudo yno ei ganu iddo fo – er mwyn iddo gael ei chofnodi a’i diogelu. Felly am sawl rheswm, rhwng y geiriau a chefndir y gân, mae’n creu ias arbennig.
Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
Y peth cyntaf a’r peth pwysicaf i’w ddweud fan hyn ydi nad ydw i’n gallu dawnsio! Mi allwn i ddychryn a gwagio ystafell yn llawn pobl petawn i’n ymdrechu i symud i gân. Ond petawn i’n gallu, a phetawn i ddim yn rhy hen – mi fyddwn i’n dawnsio i’r gân Neidia gan Gwilym. Dw i ddim yn meddwl bod rhaid esbonio pam – mae’r cliw yn y teitl ac os wnewch chi wrando arni – mi wnewch chi glywed yr ateb!
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?
Mwng – Super Furry Animals. Campwaith. Diolch amdani am byth – am y gerddoriaeth, yr hapusrwydd ynddi ac am y sylw gafodd yr iaith diolch i’r Furries a Mwng.
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
Un o ddwy gân gan Cowbois Rhos Botwnnog. Wel, na, mwy nac un ganddyn nhw ond dw i wedi dewis Lle’r Awn i Godi Hiraeth a Clawdd Eithin. Does dim dwywaith bod y prif leisydd a’r cyfansoddwr Iwan Huws yn fardd. Mae’r band wedi rhyddhau rhai o’r caneuon gorau yn yr iaith dros y blynyddoedd aeth heibio. Anodd iawn ydi diffinio hiraeth yn aml iawn, ond eto yn y gân Lle’r Awn i Godi Hiraeth mae’r cwestiwn o godi a mynd i chwilio amdano fo a cheisio dod o hyd i hiraeth o’r newydd yn syniad dw i wrth fy modd yn ei bwyso a mesur.
A dw i’n meddwl bod creu’r syniad o hiraeth am ddyddiau sydd wedi bod ydi camp Iwan yn Clawdd Eithin hefyd. Dyddiau hirfelyn tesog yn edrych yn ôl ar fagwraeth yng nghefn gwlad Cymru – blodau melyn ac arogl yr eithin yn llenwi ffroenau rhywun. Heb os, mae caneuon Cowbois yn debyg iawn i ganeuon Alun Sbardun Huws – yn yr ystyr eu bod nhw’n gallu creu lluniau byw iawn ym meddwl rhywun wrth wrando arnyn nhw.