Y tro yma, Siôn Tomos Owen sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon.

Mae Siôn yn gyflwynydd teledu a radio, darlunydd, awdur, bardd, digrifwr, a thiwtor gweithdy creadigol. Mae’n debyg eich bod chi wedi ei weld ar S4C mewn rhaglenni fel Pobol y Rhondda a Noson Lawen. Mae e hefyd yn cyflwyno un o fy hoff raglenni, Cynefin. Mae Siôn wedi creu llawer o ddarluniau a murluniau anhygoel dros y blynyddoedd. Mae e hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr gan gynnwys Cawl ac Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda. Cafodd ei lyfr newydd, Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda, ei gyhoeddi ym mis Awst eleni.


Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Dw i’n hoff iawn o wahanol fathau o gerddoriaeth ac mae beth sy’n ‘neud fi’n hapus yn newid genres yn aml. Ond, fel arfer, rhywbeth sy’n dod ac atgofion sy’n gwneud i mi wenu. Mae’r albwm Graceland gan Paul Simon yn f’atgoffa o eistedd yn y bŵt yn estate mam a dad yn tynnu carafán drwy Ffrainc pan o’n i’n ifanc. Mae’r gân California o’r albwm Blue gan Joni Mitchell yn ‘neud i fi gofio am eistedd allan ar y gwair yn yr haul yng Ngholeg y Drindod. Pan dw i’n clywed y drymiau yn cicio mewn ar Bron-Y-Aur Stomp gan Led Zeppelin, dw i yn fy arddegau yn reidio fy meic ar draws y mynyddoedd gyda buttys fi! Ac mae nodau agoriadol Sebona Fi gan Yws Gwynedd yn ‘neud i fi wenu,  does dim ots pa fŵd dw i mewn.

Cofeb Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Dw i ddim yn foi sy’n crïo’n aml, ond un gân sy’n gwneud i mi deimlo’n emosiynol yw Hen Wlad fy Nhadau, ein hanthem genedlaethol. Dw i methu ei chanu yn hwyr yn y nos achos fydda’i methu cysgu (dw i’n credu taw cysylltiad â gemau rygbi yw hwn). Os dw i’n isel, dw i’n gwrando ar Flamenco Sketches gan Miles Davies, ond os dw i’n feddw ac eisiau bach o gerddoriaeth pan dw i’n dod adref, dw i’n rhoi fy nghlustffonau mawr ‘mlaen ac yn gwrando ar Ravel: Daphnis et Chloé gan y Berlin Philharmonic. Mae’r lleisiau a’r gerddorfa gyda’i gilydd yn codi fi lan i’r cymylau.

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Mae ganddon ni arwydd yn y gegin yn dweud: “Mae’r gegin yma i chi ddawnsio” achos dyna ble mae ein seinydd clyfar. Felly pan oedd ein merch ifanca’ yn fach roedd hi’n arfer rhedeg mewn i geginau pobol, a gweiddi “Alexa play…” a dechrau siglo ei phen-ôl. Doedd hi ddim yn deall pam bod cerddoriaeth ddim yn chwarae yng nghegin pawb! Felly mae theme tune y cartŵn Bluey yn gorfodi ni fel teulu i ddawnsio yn aml!

Ond un o’r caneuon dw i’n debygol o ddawnsio iddi yw Neidia gan Gwilym. Mae fy nhad yn casáu’r gân achos pan oedden ni’n gweithio yn yr ardd wnes i roi’r gân ar lŵp am awr gyfan! Mae fy ngwraig yn rhoi stŵr i mi ac yn gorfodi fi i “ddawnsio gyda bysedd” pan dw i’n gyrru ac yn chwarae Never Gonna Not Dance Again gan P!nk! Dw i’n ffan fawr o’r gân Modern Girl gan Bleachers yn ddiweddar (cân rhedeg da, hefyd) a hoff gân fy nhad, (Your Love Keeps Lifting Me) Higher and Higher gan Jackie Wilson. Dyma oedd yr ail gân yn ein priodas a daeth pawb i ddawnsio.

Big Leaves – Pwy Sy’n Galw

Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?

Cwestiwn anodd iawn! Dw i fel arfer yn mynd yn obsessed gydag un albwm am dipyn ac wedyn ddim yn gwrando arni am amser hir! Felly i wrando ar rywbeth ar lŵp bysai’n rhaid i fi ddewis rhywbeth eitha’ hir ac amrywiol. Mae fy ngwraig yn dweud mai’r albwm mae hi’n clywed fi’n gwrando arni fwyaf yw soundtrack y sioe gerdd Hamilton gan Lin-Manuel Miranda. Mae mor, mor glyfar. Mae’r cast yn canu a rapio i esbonio hanes cynnar yr Unol Daleithiau trwy fywyd Alexander Hamilton. Mae’r amrywiaeth o steiliau cerddorol a lleisiau anhygoel yn wych.

Ond o ran albwm gan fand, mae Pwy Sy’n Galw? gan Big Leaves yn absoliwt banger heb un gân wael ar yr holl albwm. Dw i wedi caru’r albwm ers i fy mam ei phrynu i mi yn y Royal Welsh pan o’n i’n 16 oed a dw i’n dod ‘nôl ati yn aml. Mae’n un o’r CDs prin sydd dal gen i yn y car! Hefyd, wnes i ddarganfod Revolver gan y Beatles a Led Zeppelin III pan o’n i’n ‘neud TGAU hefyd, a dw i dal i ddwlu arnyn nhw.

Dafydd Iwan

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?

Anodd eto, ond mae rhai yn sefyll allan – caneuon lle dych chi’n clywed miloedd yn canu eich cân nôl i chi. Gwelais i Bruce Springsteen a’r E Street Band yn y Stadiwm yng Nghaerdydd ac roedd clywed Born to Run yn cael ei chanu nôl gan gymaint o bobol o bob oedran yn anhygoel. Bysai’r teimlad o glywed y gynulleidfa yn canu cân ro’n i wedi sgwennu yn freuddwyd.

Ac am yr un rheswm, dwy anthem Cymru: yr un traddodiadol, Hen Wlad Fy Nhadau. Cafodd y dôn ei chyfansoddi ar y delyn gan James James ar ôl clywed yr alaw yn sŵn yr afon Rhondda yn Nhrehafod. Cafodd y geiriau eu sgwennu gan Evan James (tad James) yn disgrifio pa mor wych yw ein gwlad fach ni. Y llall yw anthem y bobol, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan. Dw i’n cofio gweld e’n ddiweddar mewn dagrau yn ei chanu cyn gêm bêl-droed Cymru. Roedd e wedi sgwennu’r gân am frwydro dros y Gymraeg pan oedd e’n 40 oed. Dw i ddim yn credu roedd e’n disgwyl y byse miloedd yn dal i ganu gyda fe pan oedd e yn ei 80au. Dyna wir bŵer sgwennu cân!

www.siontomosowen.cymru