Dyma gyfres newydd gan golofnydd Lingo360, Pawlie Bryant, sy’n dysgu Cymraeg, yn gerddor, ac yn byw yng Nghaliffornia. Mae’n edrych ar hoff ganeuon rhai o wynebau adnabyddus y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Y tro yma, Floriane Lallement sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon…
Mae Floriane yn ganwr-gyfansoddwr sy’n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala. Mae hi’n dod o Ffrainc yn wreiddiol. Mae hi’n siarad Ffrangeg, Saesneg, Sbaeneg, a nawr… Cymraeg! Mae Floriane wedi cael gyrfa ddiddorol, gyda phrofiad fel cantores, cerddor, actor, model, peiriannydd, ac athrawes.
Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Mae cymaint o ganeuon yn fy ngwneud yn hapus ond, ar hyn o bryd, dw i wrth fy modd efo goofiness Shake It Off (Taylor Swift). Mae The Dog Days Are Over (Florence and the Machine) yn gwneud i fi deimlo fel sefyll i fyny drosof fy hun, ac mae Vienna (Billy Joel) yn fy helpu i beidio teimlo brys i wneud popeth, a chael ffydd yn y ffaith bod gennym ein bywydau i gyd i gyrraedd ein nodau.
Mae Dust in the Wind (Kansas) yn fy helpu i beidio â chymryd pethau o ddifri, ac mae Clean (Noah Florersch) yn gân sydd wedi’i hysgrifennu’n wych.
Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
She Used to Be Mine (Sara Bareilles) – mae’n fy atgoffa o’r heriau roeddwn i’n eu hwynebu ac yn cael trafferth gadael iddyn nhw fynd. Mae Gymnopedie (Erik Satie) yn fy atgoffa o fy nhad sy’n byw yn Ffrainc a dw i ddim wedi gweld ers llawer gormod o amser. Mae Someone New (Hozier) yn fy atgoffa sut rydw i wedi cael fy chwarae gan ddyn oedd ddim yn haeddu fy nagrau. Mae Caeau (Bwncath), yn dod a dagrau o obaith a chysylltiad i mi fy hun. Mae O Gymry (Eleri Llwyd) yn dod a dagrau o werthfawrogiad i mi, a sut dw i’n teimlo’n lwcus i fyw mewn gwlad mor brydferth.
Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
Feel it Still (Portugal), Don’t Stop Me Now (Queen), Sweet Disposition (The Temper Trap), This is America (Childish Cambino), Back on 74 (Jungle), a My Power (Beyonce). Hefyd Nails, Hair, Hips, Heels (Todrick Hall), a Bum Bum Tam Tam (MC Fiati).
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?
Mae hyn yn rhy anodd ei ateb. Y peth cyntaf ddaeth i fy meddwl oedd Toxicity (System of a Down). Mae’n help mawr i mi brosesu’r holl emosiynau ry’n ni’n eu cael. Ond dw i’n gobeithio’n fawr na fydd yn rhaid i fi ddewis!
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
Mae geiriau You Just Didn’t Like Me That Much (Leanna Firestone) yn wych: “I know you didn’t mean to make me a casualty of your curiosity”. Dw i wrth fy modd gyda “casualty of your curiosity”!.
www.florianelallement.com