Dyma gyfres newydd gan golofnydd Lingo360, Pawlie Bryant, sy’n dysgu Cymraeg, yn gerddor, ac yn byw yng Nghaliffornia. Mae’n edrych ar hoff ganeuon cerddorion, cantorion-gyfansoddwyr, artistiaid a chyflwynwyr Cymru – a llawer mwy! Y tro yma, Mei Emrys, y canwr-gyfansoddwr o ardal Caernarfon, sy’n trafod ei hoff ganeuon. Mei oedd sylfaenydd a chyn-ganwr y grŵp Vanta – un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru yn y 2000au. Fel artist unigol, mae Mei wedi rhyddhau’r albwm arbennig Llwch yn 2017, a sawl sengl: Bore Sul [Yn Ei Thŷ Hi] (2022), Olwyn Uwchben y Dŵr / 29 (2022), ac Allan o’r Suddo (2023) – sydd â fideo anhygoel.
Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?
Mae’r ddwy fersiwn o Pentref Wrth y Môr yn gwneud i mi wenu, ond am resymau gwahanol. Ar y naill law, mae’r fersiwn wreiddiol – gan Gorky’s Zygotic Mynci – yn fy atgoffa i o fy nghyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r holl hwyl ac amseroedd da gefais i yno. Ar y llaw arall, mae clywed fersiwn calypso Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr o’r un gân yn dod ag atgofion am wyliau braf iawn gefais i yn Barbados ychydig flynyddoedd yn ôl – yn enwedig am bentref pysgota hyfryd Bathsheba a’i eglwys binc!
Mae ’na nifer o ganeuon o ail hanner y 1990au sydd hefyd yn gwneud i mi deimlo’n hapus. Y rheswm syml am hynny ydi oherwydd eu bod nhw’n fy atgoffa fi o fod yn fy arddegau ac o’r cyfnod cyffrous pan wnes i brynu fy ngitâr gyntaf; dechrau mynd i gigs a ffurfio band fy hun – sef Vanta. Un o’r caneuon yna ydy Not If You Were The Last Junkie On Earth, gan The Dandy Warhols. Y gân yna, yn rhyfedd ddigon, oedd y gyntaf wnaeth Vanta erioed ei pherfformio’n fyw!
Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?
Mae ‘na ambell un! Y geiriau sy’n bennaf gyfrifol, fel arfer, yn enwedig pan mae naws y gerddoriaeth yn gweu’n dda gyda nhw ac felly’n helpu i’w cyfleu. Mae Don’t Go Away gan Oasis (sef fy hoff fand) yn un ‘trac torcalon’ sy’n dod i’r meddwl yn syth. Mae Eve, the Apple of My Eye – gan y band Gwyddelig, Bell X1 – yn un arall: mae tristwch y llinell ‘The only thing that we share is the same sky’ yn fy nghael i bob tro!
Cân Saesneg arall sy’n taro’r emosiynau’n syth yw Tumble and Fall, gan Feeder. Ar ôl dechrau gyda’r frawddeg agoriadol drawiadol, ‘All this for nothing’, mae’r gân yn cyrraedd uchafbwynt gyda’r datganiad ‘Life’s not the same since that day you went away’, sy’n eithriadol o ingol, o gofio hanes y band.
O ran caneuon Cymraeg, dw i’n meddwl bod geiriau Cofio Dy Wyneb, gan Emyr Huws Jones, yn anhygoel. Er eu bod nhw’n ddigon syml, mae ambell linell – fel ‘a ’chydig a wyddwn i fod y tywydd ar droi a mod i ar fin dy golli’ – yn wefreiddiol o dorcalonnus. Dw i’n hoff iawn o’r drydydd bennill sy’n gosod y ‘ceir yn mynd yn ôl dros Bont Menai’ ar ddiwedd yr haf ochr yn ochr â ‘gadael a wnaethost ti a gwn na ddoi di byth yn nôl’. Mae hynny mor syml, ond mor effeithiol. Yn annisgwyl – o ddarllen y geiriau – tydi trefniant cerddorol fersiwn wreiddiol Mynediad am Ddim o’r gân ddim yn drist o gwbl. Yn wir, mae’r piano a’r gitâr gynnil sy’n gyfeiliant i fersiwn mwy diweddar Bryn Fôn a Luned Gwilym yn cyd-fynd yn llawer agosach efo naws hiraethus y geiriau.
Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?
Mae alcohol yn fwy tebygol o wneud i mi fod eisiau dawnsio nag unrhyw gân benodol, i fod yn onest! Ond mae Mr. Brightside, gan The Killers, yn glasur dwi wedi neidio i fyny ac i lawr iddi lawer gwaith dros y blynyddoedd! Dw i hefyd yn hoff o egni The Glow, gan DMA’s ac – er ei bod hi’n chwarter canrif oed bellach – mae Disco Down, gan Shed Seven, yn gân arall sy’n dal i wneud i mi fod eisiau symud! Mae’r ffaith bod teitl y gân honno’n gwneud iddi swnio fel ei bod hi am raglen gerddoriaeth Gymraeg chwedlonol oedd ar y teledu ar ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au (Disc a Dawn) hefyd yn ychwanegu at ei hapêl!
Ond dw i’n llawer mwy tebygol o ddefnyddio cerddoriaeth fel cyfeiliant ar gyfer rhedeg, yn hytrach na dawnsio, erbyn hyn. Mae Rock ‘n’ Roll Star, gan Oasis, a Hot N Cold neu Part of Me gan Katy Perry, yn ffefrynnau pan fyddai’n chwysu ar y felin draed!
Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?
Dw i wedi bod yn gwrando ar Born and Raised, gan John Mayer, drosodd a throsodd ers blynyddoedd lawer bellach a dw i ddim yn meddwl na’i fyth flino arni. Mae’n albwm sy’n llawn tiwns gwych – o Queen of California (sef y trac agoriadol), i Whiskey, Whiskey, Whiskey ac A Face to Call Home. Ond fy hoff drac yw Walt Grace’s Submarine Test, January 1967, sef cân am ddyn sy’n penderfynu mynd ati i adeiladu llong danddwr fechan yn ei seler, gan ei fod wedi diflasu ar undonedd ei fywyd ac eisiau dianc i ‘ganfod rhywle newydd’. Dwi’n meddwl fod hynny’n cyd-fynd yn dda efo’r syniad o fod yn sownd ar ynys bell! Cefais y pleser o glywed John Mayer yn chwarae’r gân yn fyw yn Boston y llynedd: uchafbwynt gig oedd yn llawn uchafbwyntiau.
Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu a pham?
Unwaith eto, mae ’na restr hir iawn o ganeuon, gan bob math o artistiaid anhygoel… sydd i gyd yn llawer mwy talentog na fi! Mae Waterloo Sunset gan The Kinks yn un trac sy’n dod i’r meddwl yn syth: byddai’n wych meddu ar ddim ond 5% o ddawn dweud stori Ray Davies! Ten Storey Love Song, gan The Stone Roses, ydi’r gân gyntaf fedra’i gofio gwrando arni a meddwl ‘cerddoriaeth fel ’na fyswn i’n hoffi ei ysgrifennu’. Roeddwn i yn fy arddegau ar y pryd a newydd ddechrau chwarae gitâr. Ond chwarter canrif a mwy yn ddiweddarach, mae’n deg dweud nad ydw i erioed wedi llwyddo i ddod yn agos at gyfansoddi’r fath gampwaith.
O ran caneuon Cymraeg, dw i’n cofio clywed Dŵr yn y Gwaed, gan Al Lewis (sydd ar yr albwm ‘Ar Gof a Chadw’), am y tro cyntaf a meddwl ei bod hi’n gân dda iawn. Mae hi’n swnio mor syml: mae bron fel bod Al yn byrfyfyrio ac yn gwneud yr holl beth i fyny fel mae’n mynd ymlaen. Ond mewn gwirionedd, mae hi’n gân sydd wedi cael ei llunio’n eithriadol o grefftus: mae’r pennill yn llifo’n hollol naturiol i mewn i’r bont, cyn i’r gytgan felodaidd ac esgynnol droi’r trac hamddenol i mewn i anthem. Os fyswn i’n gyfansoddwr hanner mor dda ag Al Lewis, fyswn i’n ddyn hapus iawn!
Mae Mei Emrys wedi creu rhestr chwarae o’r caneuon mae’n sôn amdanyn nhw.
www.instagram.com/meiemrys