Dyma gyfres newydd gan golofnydd Lingo360, Pawlie Bryant, sy’n dysgu Cymraeg, yn gerddor, ac yn byw yng Nghaliffornia. Mae’n edrych ar hoff ganeuon rhai o wynebau adnabyddus y sîn gerddorol yng Nghymru.  Y tro yma, Dafydd Owain sy’n ateb cwestiynau Lingo360 am ei hoff ganeuon.

Mae Dafydd yn ganwr-gyfansoddwr. Roedd wedi rhyddhau ei albym unigol cyntaf, Uwch Dros y Pysgod, yn 2023. Roedd yr albym wedi’i osod mewn pentref dychmygol o’r un enw. Mae Uwch Dros y Pysgod yn albym eithriadol sy’n dweud straeon y pentref o safbwynt y trigolion dychmygol. Roedd Dafydd a’i dîm wedi creu fideo creadigol iawn ar gyfer Uwch Dros y Pysgod, sydd ar gael ar Lŵp/S4C. Mae Dafydd hefyd yn adnabyddus am ei waith gyda bandiau fel Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro, Omaloma, a Palenco.


Pa gân neu ganeuon sy’n eich gwneud chi’n hapus, a pham?

Defaid oddi ar albym diweddaraf Pys Melyn. Mae’r geiriau’n berffaith.

Pa gân neu ganeuon sy’n dod â deigryn i’r llygad, a pham?

Mae ‘na gân gan Tom Waits o’r enw Dirt in the Ground – cân go anghynnes ond eto’n gysurus yn ei anghynnesrwydd. Pan glywais hi am y tro cyntaf, fe wnes i grio. Mae’r fersiwn wreiddiol oddi ar yr albym Bone Machine ond mae ‘na hefyd fersiwn byw anhygoel a gafodd ei recordio yn ystod ei daith ‘Glitter and Doom’. Dw i’n meddwl bo’ well gen i’r fersiwn byw. Cân sy’n dod a rhyw sicrwydd anghynnes i fyd ansicr.

Pa gân neu ganeuon sy’n gwneud i chi eisiau dawnsio?

Mae gen i a ffrind agos rhyw obsesiwn od hefo rhai o ganeuon Siân James. Mae Fflyff ar Nodwydd a Broga Bach yn enghreifftiau penodol. Roedd fy ffrind yn aros draw am gyfnod ac roedd y ddau ohonom yn troi at y caneuon hyn ar bob achlysur. Does gen i ddim syniad be sy’n gwneud i ni eisiau dawnsio i’r rhain.

Georgia Ruth – Cool Head

Os o’ch chi’n sownd ar ynys bell ac yn gorfod gwrando ar un albwm ar lŵp, beth fyddai hi? Pam?

Ha! Y cyfyng-gyngor yma. Dw i’n aml yn gofyn y cwestiwn yma i fy hun ond byth wir yn dod i ateb pendant gan fod y gerddoriaeth dw i fel arfer yn gwrando arni ar ‘lŵp’ yn aml yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd o’m cwmpas neu sut dw i’n teimlo ar y pryd. Pan dw i’n teimlo dan gwmwl, ma’ cerddoriaeth yn dod â chysur, a phan dw i’n teimlo ar ben y byd, mae cerddoriaeth yn llwyfan ychwanegol i sefyll arno. Felly ma’n newid o hyd a mae ‘na siawns y baswn i wedi llwyr syrffedu ar wrando ar yr un albym ar ynys bell!

Andy Shauf – The Neon Skyline

Ond, taswn i’n gorfod rhoi ateb ar bwynt ysgrifennu’r geiriau yma, mae ‘na siawns y baswn i’n dewis un ai albym newydd Georgia Ruth, Cool Head, neu unrhyw un o albyms Andy Shauf.

Pa gân fyddech chi’n hoffi fod wedi’i hysgrifennu?

Dirt in the Ground gan Tom Waits, neu’r gân Wendell Walker gan Andy Shauf.

www.instagram.com/dafowain