Mae Rhian Cadwaladr yn actor ac awdur. Mae hi hefyd yn ysgrifennu colofn i Lingo Newydd. Mae Rhian wedi ysgrifennu sawl llyfr ond dyma’r tro cyntaf iddi ysgrifennu llyfr i ddysgwyr. Mae hi’n byw yn Rhosgadfan ger Caernarfon. Mae cyfle i chi ennill copi o’r llyfr – atebwch y cwestiwn ar ddiwedd yr eitem yma.

Yma mae Rhian Cadwaladr yn ateb cwestiynau Lingo360…

Rhian, sut fysach chi’n disgrifio’r llyfr Hanna?

Mae Hanna yn nofel hanesyddol, fywiog sydd wedi ei gosod ym mhentref chwarelyddol Llanberis yn y flwyddyn 1910. Mae’r prif gymeriad yn forwyn yng nghartref arolygwr y chwarel.

Clawr y llyfr Hanna gan Rhian Cadwaladr

O le daeth y syniad am y llyfr?

Ers dros chwarter canrif dw i wedi bod yn actio cymeriadau gwahanol yn Amgueddfa Lechi Llanberis. Roedd un o’r cymeriadau cyntaf wnes i greu yn forwyn yn Nhŷ’r Peiriannydd ar y safle. Un mwy diweddar yw Hanna, gwraig y Prif Beiriannydd. Mae Tŷ’r Peiriannydd wedi ei osod fel petai hi’n 1913. Wrth i mi eistedd yno yn disgwyl i ymwelwyr gyrraedd dw i wedi bod yn dychmygu bywyd yn ystod y cyfnod – ac fe ddaeth y syniad am y nofel wrth i mi wneud hyn.

Ydy’r steil yn wahanol i beth fysach chi fel arfer yn sgwennu?

Ydi. Dw i fel arfer yn sgwennu nofelau cyfoes ar gyfer siaradwyr rhugl. Dyma’r tro cynta’ i mi sgwennu ar gyfer dysgwyr a hefyd i fentro teithio yn ôl mewn amser.

Sut fysach chi’n disgrifio’r prif gymeriad Hanna? 

Mae Hanna yn ferch ddeallus, chwilfrydig sydd weithiau yn ei chael hi’n anodd dilyn y drefn. Mae hi’n 26 oed a’i mam yn poeni nad ydi byth wedi dod o hyd i ŵr. Ond mae’n well gan Hanna ddarllen a dysgu am wleidyddiaeth a’r mudiad suffragettes na chwilio am ŵr.

Ydy ei chymeriad wedi cael ei seilio ar rywun arbennig?

Nagydi, wel, heblaw’r merched dychmygol dw i wedi eu portreadu yn yr amgueddfa lechi. Ond mae cymeriad Twm Parry, tad Hanna, wedi ei ysbrydoli gan fy nhaid, Wil Parry. Roedd yn chwarelwr yn chwarel Dinorwig, Llanberis. Roedd o, fel Twm, yn trwsio clociau. Fe fu farw pan oeddwn i’n 10 oed.

Oes llawer o gymeriadau eraill yn y llyfr?

Mae yna lond llaw o brif gymeriadau – fel teulu agos Hanna a’i bos Mr Lewis. Ond mae yna hefyd nifer o gameos bach sef pentrefwyr fel Beti Dew, Robat Tŷ Pen a Gwendoline Prydderch BA. Rydan ni hefyd yn cyfarfod ewythr Hanna, sef Ephraim, sydd yn ffarmwr yn Ynys Môn, a’r rhai sy’n gweithio iddo.

Ar gyfer pa lefel mae Hanna?

Lefel Uwch.

Nain Rhian Cadwaladr, sef Beneth Maglona Parry

Dyma ychydig o gefndir Rhian Cadwaladr

 Cefais fy magu yn Llanberis. Roedd fy nhaid, hen daid a hen, hen daid wedi gweithio yn y chwarel yno – mae’r llechen yn fy ngwaed!

Roedd fy nwy nain wedi bod yn forynion cyn iddyn nhw briodi. Ro’n i wedi synnu o weld clawr Hanna, gafodd ei ddylunio  gan Olwen Fowler. Roedd y ferch yn y llun yn debyg iawn i fy nain, sef Beneth Maglona Parry fu farw cyn fy ngeni.

Cystadleuaeth

Dach chi eisiau ennill copi o’r llyfr Hanna?

Beth am ateb y cwestiwn yma: Pa flwyddyn gafodd merched yr hawl i bleidleisio?

Anfonwch eich atebion at lingonewydd@golwg.cymru gyda’ch enw a chyfeiriad. Fe fydd copi o’r llyfr yn cael ei anfon at yr enillydd lwcus. Y dyddiad cau ydy 9yb, 24 Mehefin 2024.

Bydd Hanna yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf fel rhan o’r gyfres Amdani (Gwasg y Bwthyn).