Pentref hardd ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Tyndyrn, ychydig filltiroedd o Gas-gwent.  Gyda chaffis hyfryd a siopau crefftau, mae gan adfeilion Abaty Tyndyrn le amlwg ar y dirwedd.

Abaty Tyndyrn

Mynachlog gothig yw Abaty Tyndyrn. Aeth yn adfail ar ôl diddymiad y mynachlogydd o dan y Brenin Harri VIII.  Mae bellach dan ofal Cadw, sydd wedi gweithio’n galed i ddiogelu’r heneb hanesyddol yma.

Bydd darllenwyr Lingo360 yn gwybod fy mod i wrth fy modd â hen adeiladau mawr, ond dw i hefyd yn hoffi rhywbeth ychydig yn wahanol. Felly pan welais arwydd ffordd yn dweud “Yr Hen Orsaf“, roedd yn rhaid i mi fynd!  Beth wnes i ddarganfod oedd canolfan ymwelwyr mewn hen gerbydau rheilffordd, model rheilffordd, ardal chwarae i blant, ystafelloedd te hyfryd a’r golygfeydd harddaf dros Ddyffryn Gwy. O’r Hen Orsaf mae amryw o deithiau cerdded y gallwch eu gwneud o amgylch yr ardal lle gallwch weld dyfrgwn, pathewod, adar ac ystlumod.

Y tu mewn i’r ganolfan ymwelwyr, gwelais fodel rheilffordd wych o ddechrau’r 1900au, ond dysgais hefyd am ychydig o hanes Cymru/Lloegr nad oeddwn yn gwybod amdano.

Yr hen swyddfa docynnau sydd bellach yn gaffi

Teithiau cwch ar hyd Afon Gwy

Yn y 18fed ganrif, roedd teithiau mawr o amgylch Ewrop yn boblogaidd iawn ymhlith pobl gyfoethog. Ond oherwydd rhyfeloedd yn Ewrop yn y 19eg ganrif, dechreuodd pobl aros gartref a chael gwyliau ym Mhrydain.

Roedd y Parchedig John Egerton yn Rheithor Rhosan ar Wy o 1745.  Roedd ef a’i wraig yn gyfoethog. Roedden nhw’n diddanu eu gwesteion trwy fynd â nhw ar Afon Gwy mewn cwch oedd wedi’i adeiladu’n arbennig.

Daeth teithiau cwch ar hyd Afon Gwy yn boblogaidd rhwng 1790 a 1830.  Erbyn 1800, roedd wyth cwch yn gwneud y teithiau. Roedd y teithiau yn fwy poblogaidd ar ôl i William Gilpin gyhoeddi ei deithlyfr Observations on the River Wye. Roedd yn un o’r llyfrau cyntaf o’i fath ym Mhrydain.

Hen gerbyd tren

Adeiladu rheilffordd

Cafodd y rheilffordd ei adeiladu er mwyn darparu gwell trafnidiaeth i’r diwydiant yn Nyffryn Gwy.  Roedd cannoedd o bobl yn cael eu cyflogi i gynhyrchu gwifrau yn Nhyndyrn ac roedd yn un o’r diwydiannau mwyaf yng Nghymru.

Yn agoriad mawreddog y rheilffordd ar 28 Hydref 1876 fe wnaeth trên adael Cas-gwent gan stopio am y tro cyntaf yn Nhyndyrn.

Ar ôl agor yr Hen Orsaf yn Nhyndyrn, daeth miloedd o ymwelwyr i weld Abaty Tyndyrn. Ond yn ystod dechrau’r 20fed ganrif, roedd dirywiad graddol yn y diwydiant ymwelwyr a llai yn teithio ar y rheilffyrdd. Cafodd rheilffordd Dyffryn Gwy ei gau i dwristiaid yn 1959 ac i ddiwydiant yn 1964.

Hen fainc GWR

Rai blynyddoedd ar ôl i’r rheilffordd gau, cafodd y swyddfa docynnau a’r caban signalau eu hadfer gan wirfoddolwyr lleol. Mae’r swyddfa docynnau bellach wedi ei throi yn gaffi.  Mae’r hen reilffordd wedi’i thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio.  Gallwch ddilyn ôl troed y trên o bentref Tyndyrn, trwy Dwnnel Tidenham a draw i Loegr.  Mae ar agor rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.

Os fyddwch chi’n mynd i Abaty Tyndyrn, ewch filltir i fyny’r ffordd i ymweld â’r atyniad diddorol yma.