Mae Irram Irshad yn fferyllydd sy’n caru hanes! Mae ei cholofn yn edrych ar rai o lefydd ac adeiladau hanesyddol Cymru. Y tro yma, mae hi’n dweud pam bod Cwrt Insole yn bwysig i hanes Caerdydd…
Dw i wedi bod yn mynd i Gwrt Insole yn y Tyllgoed, Caerdydd, ers blynyddoedd i fynychu eu ffeiriau crefft a’r Farchnad Ffermwyr. Mae’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai a dosbarthiadau ioga. Dych chi’n gallu llogi ystafelloedd ar gyfer gwahanol weithgareddau.
Maen nhw hefyd yn cynnal teithiau tywys. Wnes i fynd ar un o’r teithiau ar ddiwedd mis Rhagfyr 2023, dan arweiniad y tywysydd, Lloyd Glanville. Roedd yn ddiddorol ac yn addysgiadol iawn. Felly pam mae Cwrt Insole yn bwysig i hanes Caerdydd?
Y teulu Insole
Cafodd George Insole ei eni yn 1790 yng Nghaerwrangon a gwnaeth ei arian o bren. Er mwyn dod yn gyfoethocach symudodd i dde Cymru ar gyfer y diwydiant glo, er roedd e wedi bod yn fethdalwr sawl gwaith cyn hynny. Roedd y teulu Insole yn byw yn Crockherbtown (Heol y Brodyr Llwydion bellach – ond pan dw i’n mynd i’r dref, mae fy ffôn symudol yn dweud fy mod yn Crockherbtown!). Tyfodd yr ardal yn gyflym ond roedd llawer o lygredd a throsedd yno. Symudodd mab George, James Harvey, y teulu i 57 erw o dir fferm. Roedd James eisiau bod yn berchennog tir ac adeiladodd y tŷ cyntaf ar y safle yn Llandaf yn 1856, gan ei alw’n Gwrt Ely.
Erbyn y 1870au, roedd y teulu Insole wedi dod yn gyfoethog iawn oherwydd y diwydiant glo. Roedd hyn tua’r un amser a phan oedd trydydd Marcwis Bute yn gweithio gyda William Burges ar Gastell Caerdydd. Penderfynodd James ei fod am gael tŷ crand ac adeiladwyd ffasâd gothig o amgylch y tŷ. Roedd yn cynnwys gargoiliau a gwahanol anifeiliaid. Roedd tŵr mawr iawn gyda chloc, tebyg i’r tŵr yng Nghastell Caerdydd. Roedd y ddau dŵr mor debyg, cafodd y pensaer George Edward Robinson ei gyhuddo o gopïo tŵr y Castell ond roedd wedi gwadu hyn yn frwd!
Mae’r llefydd tân wedi’u gwneud o galchfaen Sisilaidd a’r bwa o alabastr pinc Penarth. Teulu lleol, y Clarkes, oedd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith coed. Roedd eu gweithdy ar gornel Rhodfa’r Gorllewin a Heol Caerdydd.
Cafodd yr ystafell fwytayn y tŷ cyntaf ei newid yn ystafell smygu i’r dynion. Mae yna fent addurnedig yn y nenfwd i fwg ddianc drwyddi, ond roedd yr alabastr pinc wedi staenio dros amser. Mae’r gwaith celf ger y nenfwd yn dangos pedwar tymor y flwyddyn. Unwaith eto, mae’n efelychu’r ystafell smygu yng Nghastell Caerdydd.
Priododd mab James, George Frederick, a oedd yn cael ei alw’n ‘Fred’, merch o deulu cyfoethog ac roedd yn byw yn y Tyllgoed. Roedd eisiau symud yn ôl i Gwrt Insole. Adeiladodd lyn ac estyniadau i’r tŷ, gan gynnwys adain arall ar gyfer 12 ystafell wely. Roedd gan yr ystafell fwyta newydd lawr arbennig ar gyfer dawnsio. Cafodd y bwrdd a’r cadeiriau sydd yn yr ystafell fwyta nawr eu rhoi gan Ysgol Howells yng Nghaerdydd.
Diwedd y teulu Insole
Bu farw Fred yn 1917 a chafodd ei fab Claud ei ladd yn Ffrainc yn 1918 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuodd y diwydiant glo ddirywio ac oherwydd hynny roedd ffortiwn y teulu hefyd wedi dioddef. Yn 1932 cafodd y tŷ a’r tir eu prynu gan Gorfforaeth Caerdydd (y cyngor ar y pryd). Roedd dau aelod olaf y teulu wedi symud o’r tŷ yn 1938.
Roedd hanes y teulu Insole wedi parhau llai na 100 mlynedd, ond roedden nhw wedi cael dylanwad mawr. Mae’r teulu’n cael eu cysylltu gydag un o’r trychinebau glofaol gwaethaf yng Nghymru. Yn 1856 roedd ffrwydrad yng Nglofa’r Cymer wedi lladd 114 o bobl. Mae tystiolaeth bod James Insole yn gwybod am y peryglon yn y pwll ond chafodd y teulu ddim eu cosbi. Mae archfarchnad Morrisons ar safle’r hen lofa yn y Porth erbyn hyn – dw i’n gyrru heibio yno yn rheolaidd ar gyfer y gwaith ond doedd gen i ddim syniad!
Yn ystod y 1950au hyd at y 1970au, cafodd Cwrt Insole ei droi’n chwe fflat, ond ar ôl hynny roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael. Doedd Cyngor Caerdydd ddim eisiau ysgwyddo’r gost. Daeth trigolion lleol at ei gilydd i greu ‘Cyfeillion Cwrt Insole’ a dechrau ar y gwaith o adfer yr adeilad. Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole wedi rheoli’r safle ers 2011 ac erbyn hyn mae ganddi 80 o wirfoddolwyr. Mae seremonïau sifil yn cael eu cynnal yno hefyd.
Roedd Cwrt Insole wedi derbyn £500,000 gan y Loteri Genedlaethol, Cadw a Chyngor Caerdydd (sy’n gyfrifol am gynnal a chadw tu allan i’r eiddo). Maen nhw’n cynllunio gwaith adnewyddu i’r gegin a bydd ar agor i’r cyhoedd yn ddiweddarach yn 2024. Bydd dosbarthiadau coginio yn cael eu cynnal yno a byddan nhw’n gallu arlwyo ar gyfer priodasau.
Roedd tŷ gwydr wrth i chi ddod i’r eiddo o’r maes parcio a’r gobaith yw y bydd yn cael ei ailadeiladu yn y dyfodol.
Pan edrychwch ar y stepiau y tu allan yn arwain o’r gerddi i’r tŷ, dach chi’n gallu gweld cerfluniau llewod ar y top. Mae castiau gwreiddiol y llewod yn dal yno, ond yn anffodus, ar waelod y stepiau, y cyfan sydd ar ôl o’r griffwns yw eu traed!