Y tro yma mae colofnydd Lingo360, Irram Irshad, wedi bod i weld y gerddi a’r plasty enwog yn Sir Gâr…

Ger tref Caerfyrddin, mae un o erddi gorau Cymru. Daeth Gerddi Aberglasne yn enwog ar ôl bod ar y gyfres deledu BBC A Garden Lost In Time yn 1999.

Gerddi Aberglasne

Ychydig iawn o wybodaeth sydd am ddyddiau cynnar y safle. Ond mae son am “naw o arddau yn wyrddion” mewn cerdd ganoloesol gan y bardd Lewis Glyn Cothi.

Mae hanes “modern” Aberglasne yn dechrau yn ystod teyrnasiad Henry VIII. Cafodd Syr William Thomas ei urddo’n farchog gan y brenin. Fe oedd Uchel Siryf cyntaf Sir Gaerfyrddin rhwng 1541-2. Roedd e wedi ychwanegu Capel Aberglasne at Eglwys Llangathen. Does dim llawer o wybodaeth am sut roedd y tŷ gwreiddiol yn edrych bryd hynny.

Gardd y Cloestr

Tua diwedd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth I, cafodd yr ystâd ei brynu gan yr Esgob Anthony Rudd. Roedd e a’i fab, Syr Rice Rudd, wedi ailadeiladu Aberglasne a chreu Gardd y Cloestr, sy’n enwog.

Roedd y plasty yn un o’r rhai mwyaf yng Nghymru. Ond roedd y gwaith o adnewyddu’r tŷ wedi arwain at ddyledion ac roedd yn rhaid i ŵyr Anthony Rudd forgeisio’r ystâd.

Yn 1710, roedd cyfreithiwr o Sir Gaerfyrddin, Robert Dyer, wedi prynu’r ystâd. Roedd wedi ailfodelu’r tŷ yn ystod cyfnod y Frenhines Anne.

Yn yr 1800au, roedd Aberglasne wedi pasio i’r teulu Phillips a Walters Philipps.  Dyma pryd cafodd ffasâd y plasty ei newid. Cafodd portico a’r ffenestri bae eu hychwanegu.

Rhannu’r ystâd

Yn y 1900au, roedd Aberglasne wedi cael ei etifeddu gan sawl aelod o’r teulu. Bu farw’r perchennog olaf, Eric Evans, yn 30 oed. Penderfynodd ymddiriedolwyr ei fab nad oedd Aberglasne bellach yn hyfyw yn economaidd. Cafodd yr ystâd ei rhannu a phrynodd cyfreithiwr arall o Gaerfyrddin, David Charles, y tŷ a’r fferm. Yn 1977, cafodd yr ystâd ei gwerthu eto.

Yr Ardd Suddedig (Sunken Garden) yn Aberglasne

Roedd Aberglasne wedi’i adael yn wag ac yn dechrau dadfeilio. Ond yn 1995 roedd Americanwr, Frank Cabot, wedi rhoi arian i Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne i brynu’r ystâd.  Cafodd y prosiect adfer ei oruchwylio gan William Wilkins. Fe oedd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, a hyrwyddwr cyntaf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Cafodd y tŷ rhestredig Gradd II a 10 erw o erddi eu hagor i’r cyhoedd yn 1999. Maen nhw’n cynnwys gardd hanesyddol y cloestr, gardd lysiau a’r Ninfarium unigryw, sef gardd isdrofannol dan do.

Pan wnes i ymweld ag Aberglasne ym mis Medi’r llynedd, doedd dim llawer o flodau’r haf ar ôl ond roedd y gerddi yn brydferth o hyd. Dw i’n bwriadu dychwelyd yr haf hwn i’w weld yn ei holl ogoniant. Roedd ffair grefftau yn y tŷ pan oeddwn i yno, a chawsom ginio ar y teras y tu allan, a oedd yn fendigedig.

Y Ninfarium