Dw i’n dwlu ar yr anialwch.
Yr harddwch, y llonyddwch ac, fel roedd y gofodwr Buzz Aldrin wedi disgrifio wyneb y lleuad: “Magnificent Desolation.”
Does gen i ddim problem bod yn gymdeithasol. Dw i’n allblyg yn y gwaith ac wrth gwrdd â phobl newydd ond, yn y bôn, dwi’n berson mewnblyg. Cymaint felly, dw i’n aml yn encilio i fy “lle hapus” yr wythnos cyn y Nadolig am gyfnod o unigedd.
Fy lle hapus? Death Valley.
Wedi’i leoli yng Nghaliffornia ar y ffin gyda Nevada, mae Death Valley yn ymestyn dros 7,800 cilometr sgwâr. Mae’n cynnwys y dyffryn ei hun yn ogystal â mynyddoedd, garwdiroedd, gwastadoedd halen, twyni tywod, trefi anghyfannedd, a mwy. Mae ‘na ddau lety cyfforddus ar gael yn Furnace Creek, a llefydd gogoneddus ar gyfer cerdded, heicio, dringo, seiclo, neu jyst ymlacio.
Wedi’i leoli 350 milltir o Santa Barbara, mae’n cymryd 5-6 awr i yrru i Death Valley. Mae’n daith hir ond hardd ar hyd ffyrdd anghysbell sy’n dringo dros fynyddoedd Panamint cyn disgyn lawr i Death Valley. Dw i wedi dechrau ymlacio cyn i fi gyrraedd fy llety!
Y tywydd
Dw i’n gwybod beth dych chi’n feddwl: “Mae’n ofnadwy o boeth yn Death Valley, on’d yw hi?” Wel, ydy – yn yr haf. Gyda thymheredd rhwng 40°C a 50°C (neu’n uwch), mae’r hafau yn Death Valley yn llethol… oni bai eich bod yn neidr neu’n fadfall!
Ond yn y gaeaf – fel canol mis Rhagfyr pan fydda i’n mynd – mae’r tywydd yn hyfryd: tua 20°C yn ystod y dydd. Mae’r awyr yn dywyll iawn yn y nos, gyda’r Llwybr Llaethog yn llachar uwchben. Perffaith ar gyfer ymlacio gyda gwydraid o win ynghanol yr anialwch.
Mae ‘na lawer o leoedd diddorol i’w darganfod yn Death Valley. Ugain milltir o Furnace Creek gallech chi ddod o hyd i Badwater, y man isaf yng ngogledd America. 1,700 metr uwchben Badwater mae Dante’s View – lle arbennig gyda golygfeydd syfrdanol i fyny ac i lawr y dyffryn.
Os dych chi eisiau teimlo fel eich bod ar blaned arall, ewch i weld y tiroedd diddorol a’r lliwiau anghredadwy yn Zabriskie Point ac Artist’s Palette. Os dych chi’n hoffi twyni tywod, mae pum ardal enfawr, gan gynnwys fy ffefryn: Mesquite Flats.
Am flas o hanes yr ardal, mae’n werth ymweld â Rhyolite (tref anghyfannedd), Scotty’s Castle yng ngogledd y dyffryn, a’r ganolfan ymwelwyr ac amgueddfa o hen weithfeydd boracs Furnace Creek.
Hanes hir a lliwgar
Ers mwy na mil o flynyddoedd, mae ardal Death Valley wedi bod yn gartref i lwyth brodorol Timbisha (Panamint Shoshone cyn hynny). Heddiw, yn anffodus, dim ond tua 100 aelod o lwyth Timbisha sy’n byw yno.
Cafodd Death Valley ei enw Saesneg yn 1849 yn ystod y California Gold Rush, ar ôl i grŵp o fewnfudwyr farw oherwydd yr amgylchedd garw. Yn yr 1850au, roedd mwyngloddio aur ac arian yn boblogaidd.
Yna yn yr 1880au, cafodd boracs ei ddarganfod a daeth hynny’n brif gynnyrch am sbel. Rhwng 1915 a 1935, cafodd halen o lawr y dyffryn ei gludo dros y mynyddoedd gan y Saline Valley Salt Tram – pwnc diddorol ar gyfer colofn arall!
Heddiw, twristiaeth yw prif ddiwydiant yr ardal. Ar gyfer y rhai sydd eisiau dianc y rat race fel fi, heddwch ac unigedd yw’r prif atyniad.
Cwsmer hapus iawn!