Bydd bar Tiny Rebel yng Nghasnewydd yn cau am y tro olaf ar ddiwedd y mis yma.
Mae’r cwmni bragu yn dweud eu bod nhw’n cau’r bar am resymau economaidd.
Maen nhw’n dweud bod llai o bobol yn mynd i’r ddinas ers Covid-19. Mae costau’n cynyddu ond llai o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Tiny Rebel ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod nhw wedi gorfod “gwneud penderfyniadau anodd er mwyn gwarchod dyfodol y busnes”. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cefnogi’r staff.
Bydd y bar yn cau am y tro olaf ar 31 Mawrth.
Mae Tiny Rebel wedi ennill llawer o wobrau am eu cwrw.
Roedd y bar ar y Stryd Fawr wedi agor fel pop-yp yn 2015. Roedd yn far cwrw a pizza.
Mae’r cwmni hefyd yn rhedeg bar Tiny Rebel yng Nghaerdydd a’r Brewery Taproom yn y Tŷ Du. Bydd y ddau yn aros ar agor.