Mae’r Athro Laura McAllister yn credu bod “llawer iawn mwy i’w wneud” i gael cydraddoldeb i fenywod mewn chwaraeon.
Mae hi wedi bod yn siarad â golwg360 ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae menywod wedi dioddef anghydraddoldeb, anghyfiawnder a diffyg parch dros y degawdau.
Mae stori tîm pêl-droed Lloegr yng Nghwpan y Byd 1971 yn cael ei dweud mewn ffilm newydd, Copa ’71 – does dim cofnod arall o’r twrnament.
Mae enillwyr Pencampwriaeth Chwe Gwlad rygbi’r dynion yn ennill £6m, ond does dim arian am ennill twrnament y menywod.
Model rôl
Mae Laura McAllister yn arwr yn y byd pêl-droed i fenywod.
Roedd hi’n arfer chwarae pêl-droed dros Gymru, a hi oedd y capten.
Mae hi’n is-lywydd corff llywodraethu UEFA ers Ebrill 2023 – yr unig fenyw ar y pwyllgor.
Mae hi’n dweud bod twf gêm y menywod yn rhoi pleser mawr iddi.
Roedd 5,175 o bobol wedi gwylio Caerdydd yn erbyn y Fenni fis Mehefin diwethaf.
Ond mae hi’n dweud taw dynion sy’n “dominyddu” pêl-droed o hyd, er bod llawer o fenywod yn well na dynion.