Mae hi’n Ddiwrnod y Llyfr heddiw (7 Mawrth).
I ddathlu’r diwrnod bydd plant ar draws Cymru yn cael tocyn llyfr £1. Byddan nhw’n gallu cyfnewid y tocyn am lyfr am ddim.
Maen nhw hefyd yn gallu defnyddio’r tocyn i gael £1 oddi ar lyfrau eraill sydd ddim yn rhan o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr.
Y llyfr Cymraeg eleni yw Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff sydd wedi ei gefnogi gan y Cyngor Llyfrau.
Mae wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Kev Payne. Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau, posau a gemau sy’n archwilio’r corff dynol.
Cafodd y llyfr ei addasu i’r Gymraeg gan yr awdur a’r bardd Mari George.
“Dw i mor falch bod fy addasiad Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff wedi cael ei ddewis fel llyfr Cymraeg ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2024,” meddai.
“Gobeithio y bydd yn ysbrydoli plant i ddarllen llyfrau eraill – rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano.”
Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni hefyd sef Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn, Ha Ha Cnec! gan yr awdur a’r darlunydd Huw Aaron, a Gwisg Ffansi Cyw hefyd gan Anni Llŷn.
Mae pob un o’r llyfrau ar gael i’w prynu o siopau llyfrau lleol.
Pwrpas Diwrnod y Llyfr yw trio cael mwy o blant i fwynhau darllen.
Gallwch ddarganfod mwy am lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr ar y wefan.