Mae archfarchnad Aldi wedi cael y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r Cynnig Cymraeg yn cydnabod y gwaith mae busnesau a sefydliadau wedi’i wneud i ddefnyddio’r Gymraeg.
Aldi ydy’r canfed sefydliad i gael y Cynnig Cymraeg.
Maen nhw wedi cael eu canmol am gyflwyno’r Gymraeg mewn mwy na 50 siop yng Nghymru.
Mae’n cynnwys rhoi arwyddion Cymraeg yn eu siopau, cyhoeddiadau dwyieithog, a labelu dwyieithog ar gynnyrch Cymreig Aldi fel llaeth, menyn, caws a chig. Mae staff sy’n gallu siarad Cymraeg hefyd yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith.
Mae Aldi yn dweud eu bod nhw eisiau “hyrwyddo’r pethau sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys chwilio am ffyrdd o ymgorffori’r Gymraeg yn y siopau hyn.”
Efa Gruffudd Jones ydy Comisiynydd y Gymraeg. Mae hi’n dweud: “Rydym yn gyffrous iawn i allu rhoi’r Cynnig Cymraeg i Aldi.
“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fusnesau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg.
“Hoffwn annog sefydliadau tebyg eraill i weithio gyda ni i ddatblygu a gwella eu Cynnig Cymraeg.”