Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal Gŵyl Amdani unwaith eto eleni. Mae’r ŵyl yn dathlu darllen. Bydd hi’n digwydd rhwng 4 ac 8 Mawrth 2024.

‘Amdani’ yw’r llyfrau darllen i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae dros 40 o deitlau ar gael erbyn hyn – yn llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar.

Bydd llawer o weithgareddau yn cael eu cynnal. Fel rhan o’r ŵyl bydd cyfle i ddod i ‘Adnabod yr Awdur’. Y tro yma Alun Ffred sy’n ateb cwestiynau Lingo360…

 Alun Ffred

Roedd Alun Ffred wedi ennill y wobr am y nofel orau – Gwobr Goffa Daniel Owen – yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Enw ei nofel ydy Gwynt y Dwyrain a stori dditectif ydy hi. Dyma ei nofel gyntaf.

Alun Ffred gyda’i nofel

Mae Alun Ffred wedi ymddeol erbyn hyn. Roedd yn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ac yn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, roedd yn sgriptio a chyfarwyddo rhaglenni teledu, fel y gyfres boblogaidd C’mon Midffild.

Ble dych chi’n byw ac o ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Dw i’n byw yn Nyffryn Nantlle, ardal y chwareli llechi, ger pentref Llanllyfni.

Ces i fy ngeni ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, pentref y pyllau glo ar y pryd. Ond wnes i dyfu i fyny yn Llanuwchllyn ger Llyn Tegid ym Meirionnydd.

Oeddech chi’n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?

Ro’n i’n hoffi ysgrifennu straeon hir yn Saesneg ond wnes i ddim ennill cystadlaethau ar ôl 11 oed. Ond ro’n i’n darllen drwy’r amser (gan gynnwys Ffrangeg ar boteli sôs brown HP!).

Oeddech chi wedi cystadlu gyda gwaith ysgrifenedig o’r blaen?

Ychydig iawn, iawn o gystadlu wnes i erioed. Wnes i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol amser maith yn ôl – ond nid gyda nofel – a chael fy rhoi yn y trydydd dosbarth. A dw i’n siŵr bod y beirniad yn iawn!

Beth sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?

Darnau sy’n dweud barn neu ddarnau ffeithiol bydda’i yn eu hysgrifennu fel arfer. Mae pob math o bethau yn tanio’r awydd; gwleidyddiaeth, pobol, llyfrau, chwaraeon. Unrhyw beth a dweud y gwir.

Faint o’r gloch dych chi’n ysgrifennu fel arfer?

Y peth pwysicaf yw cael llonydd, felly mae’r bore yn well na’r nos. Ac mae’r meddwl yn fwy effro. Ond dw i ddim yn dda iawn am godi yn y bore!

Beth fasai eich cyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu’n greadigol?

Does dim rhaid i chi wneud cwrs ysgrifennu, ond mae cwrs yn eich atgoffa o rai pethau pwysig fel cymeriadu, plot ac yn y blaen.

Oes ’na unrhyw lyfrau ar y gweill?

Nac oes ond mae syniadau yn fy mhen. Yn anffodus dydyn nhw’n da i ddim yn y fan honno!

Darllenwch am Amdani.