Yn wahanol i nifer o bobl wrth fynd yn hŷn, dw i wastad wedi dwlu ar fy mhen-blwydd. Gadewch i mi esbonio

Yn lle meddwl am fy mhen-blwydd fel diwrnod i dderbyn anrhegion a chael fy sbwylio, dw i’n eu gweld fel rheswm i ddathlu – y ffaith ein bod ni “yma.”

Mae fy mhen-blwydd yn teimlo fel “diwrnod diolchgarwch personol,” – diwrnod i fod yn hapus, i fwynhau bywyd a gwneud rhywbeth hwyl gyda ffrindiau.

Eleni, penderfynais drefnu gwibdaith flasu gwin yn ardal Paso Robles – tua 125 milltir i’r gogledd o Santa Barbara – gyda fy ffrind Peter. Cyn dechrau ei yrfa ffiseg, astudiodd Peter ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ei radd meistr cyn mynd i Gaeredin ar gyfer ei ddoethuriaeth PhD. Ro’n i’n arfer ei alw’n “Pedro” am flynyddoedd (ar ôl y cymeriad yn y ffilm Napoleon Dynamite), ond pan glywais ei fod e wedi mynd i brifysgol yng Nghymru, dechreuais ei alw’n “Pedro Abertawe!”

Pawlie a ‘Pedro Abertawe’ yn mwynhau yn Paso Robles

Yn ogystal â bod yn “geekgwyddoniaeth fel fi, mae Pedro hefyd yn dwlu ar win. I roi syniad i chi faint mae o’n hoffi gwin – pan dych chi’n mynd i gartref Pedro a’i wraig Celia am swper, maen nhw’n rhoi rhestr win i chi ac yn gofyn i chi ddewis potel i ddechrau!

Roedd Pedro yn awyddus i fynd i Paso Robles – a phwy well i fynd efo ar antur gwin?

Mae’r tywydd yn Paso Robles yn boethach ar y cyfan na Santa Barbara neu Santa Ynez. Does dim syndod felly y gallech chi weld (a blasu) y gwahaniaeth rhwng gwinoedd sy’n dod o Paso Robles a rhai o ardal Santa Barbara.

Tra bod Santa Barbara’n adnabyddus am winoedd fel Pinot Noir, Merlot, a Cabernet Franc – mae ardal Paso Robles yn adnabyddus am ei gwinoedd “mawr” fel Cabernet Sauvignon, Zinfandel, Syrah, ac ati. Dyma rai o fy ffefrynnau, felly mae Paso Robles yn un o fy hoff lefydd i fynd i flasu gwin. Gyda 40,000 erw o winllannoedd, mwy na 200 o windai, a’i “AVA” (American Viticultural Area) ei hunan ers 1983 – Paso Robles yw’r rhanbarth gwin sy’n tyfu gyflymaf yng Nghaliffornia.

Gwinllan Eberle

Ein stop cyntaf oedd un o’r gwindai enwocaf yn Paso Robles – ac yng Nghaliffornia: Gwindy Eberle.

Daeth Gary Eberle i Galiffornia yn y saithdegau i astudio am ddoethuriaeth mewn gwneud gwin. Yna agorodd ei windy ei hun a chynhyrchu Cabernet Sauvignon yn 1979. Wrth ymyl ei winwydd Cabernet, plannodd Gary 20 erw o winwydd Syrah yn 1975 – y gwinwydd Syrah “masnachol” cyntaf yng Nghaliffornia, ac un o’r cyntaf yn America.

Ers hynny, mae Gary wedi cynhyrchu llawer o Cabernet Sauvignon arbennig. Mae poteli Cabernet o’r wythdegau yn dal yn ddrud iawn – os dych chi’n gallu dod o hyd iddyn nhw! Gwnaeth Gary a’r tîm yn Eberle lawer o Syrah a gwinoedd gwych eraill dros y degawdau.

Ogofâu

Mae Eberle yn enwog am un peth arall: eu hogofâu.

O dan y gwindy, mae 16,800 troedfedd sgwâr o ogofâu i storio ac aeddfedu gwin mewn casgenni. Mae’n bosib trefnu taith breifat, sy’n gorffen gyda blasu gwin a chaws yn yr ogofâu. Wrth gwrs, roedd rhaid i ni fynd amdani. Roedd yn brofiad anhygoel yn yr ogofâu, ac roedd y gwinoedd yn eithriadolyn enwedig y Cabernet Sauvignon 2018!

Yr ogofau yng ngwinllan Eberle

Ein stop nesa oedd Gwindy L’Aventure. Fel mae’r enw’n awgrymu, antur fawr yw’r gwindy hwn i’r perchennog Stephan Asseo. Ar ôl 15 mlynedd yn gwneud gwin yn Ffrainc, daeth Stephan i Galiffornia yn 1998. Roedd e eisiau mwy o ryddid wrth gynhyrchu gwin. Bob blwyddyn mae Stephan yn cynhyrchu nifer o winoedd coch sy’n defnyddio grawnwin Bordeaux a Rhone gyda’i gilydd – “tabŵ” yn Ffrainc!

Mae Epoch Estate Wines yn cynhyrchu mwy nag 20 gwin. Maen nhw’n defnyddio grawnwin o winllannoedd oedd unwaith yn eiddo i’r pianydd a gwleidydd Pwylaidd Ignacy Jan Paderewski. Mae llawer o’r gwinoedd yn y steil Rhône. Yn 1913, prynodd Paderewski 2,000 erw yn Paso Robles, lle plannodd e winwydd Zinfandel a Petite Sirah. Yn ffodus – neu’n anffodus, yn dibynnu ar eich safbwynt –  roedd gwinoedd Paderewski yn well na’i gerddoriaeth, yn ôl yr LA Times! Dw i ddim yn gwbod am gerddoriaeth Paderewski ond mae’r gwinoedd heddiw yn anhygoel.

Yr arddangosfa goleuadau yn Paso Robles

Gweld y goleuni

 Ar ôl prynhawn pleserus yn crwydro o gwmpas y gwindai, aethon ni i fwynhau Sensorio – arddangosfa o oleuadau awyr agored wrth ymyl Gwindy Eberle. Mae’n cynnwys 100,000 golau LED sy’n newid lliw yn araf drwy’r nos. Mae’r Maes Goleuadau yn ymestyn dros y bryniau gyda llwybr i gerdded drwy’r arddangosfa.

Cawson ni amser anhygoel yn Sensorio, ac roedd yn ffordd berffaith i orffen y dathliadau pen-blwydd.

Felly ar ôl treulio fy mhen-blwydd gyda Pedro, ro’n i hyd yn oed yn fwy diolchgar i fod yma, ac i allu mwynhau lle arbennig fel Paso Robles, gyda ffrindiau arbennig.

Iechyd Da!

Arddangosfa Sensorio yn Paso Robles