Weithiau, mae’n ymddangos bod fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas goleuni.
Dw i’n gweithio yn y maes electro-opteg, a dw i wrth fy modd yn gwneud ffotograffiaeth yn fy amser sbâr. Dw i’n dwlu ar arddangosfeydd goleuni fel Sensorio yng Nghaliffornia, ac yn mwynhau ymweld â chamerâu obscura – fel yr un mwyaf yn y byd, yn Aberystwyth, yn gynharach eleni. Dw i’n dwlu ar seryddiaeth (sy’n seiliedig ar fesur goleuni), ac yn astudio ychydig bach o astroffiseg ar yr ochr.
Fel dw i wedi dweud o’r blaen: geek ydw i – “geek goleuni” hyd yn oed!
Felly pan oedd ffrind wedi cynnig i fynd â fi i’r arddangosfa ZooLights! y llynedd yn Santa Barbara, wnes i neidio ar y cyfle. Ces i amser anhygoel, ac ysgrifennais golofn Lingo360 am fy mhrofiad. Felly pan oedd ffrind arall wedi cynnig i fynd â fi i weld fersiwn 2024 o ZooLights! wythnos ddiwetha’, wnes i neidio ar y cyfle… eto!
Mae ZooLights! yn cynnwys miloedd o lanterni mewn siapau anifeiliaid – wedi’u goleuo gan fwy na 50,000 LEDs. Unwaith eto, roedd ZooLights! yn wledd i’r llygaid a’r dychymyg. Er fy mod yn disgwyl rhywbeth tebyg i’r llynedd, ro’n i’n hapus i weld bod llawer o bethau newydd eleni.
Roedd nifer o ardaloedd yn cynnwys enghreifftiau o’r Venus Fly Trap – fersiynau go iawn yn ogystal â fersiynau dychmygol fel prif gymeriad y ffilm Little Shop of Horrors.
Roedd yna hefyd llawer o bethau rhyngweithiol unwaith eto, gyda phrofiadau newydd gan gynnwys caleidosgop mawr… perffaith ar gyfer tynnu hunluniau gwallgof!
Cawson ni amser anhygoel unwaith eto yn ZooLights! A bod yn onest, roedd ‘na gymaint i weld eleni, dw i hyd yn oed yn meddwl am fynd eto cyn i’r arddangosfa gau ym mis Ionawr.
Mae’n anghredadwy beth allwch chi wneud gyda goleuni!