Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn yr hydref 2022. Sylweddolais yn gyflym y byddwn i angen o leia’ dau adnodd ar-lein er mwyn i fi wella fy sgiliau iaith a dringo i fyny’r “Mynydd Cymraeg” mor gyflym â phosib:

  1. GeiriadurGeiriau, diffiniadau, cenedl enwau, ymadroddion defnyddiol, a
  2. Gramadeg – Rhediad berfenwau ac arddodiaid, treigladau, ac ati.

Des i o hyd i lawer o wefannau sy’n rhoi ateb i rai o’r pethau yma, felly am sbel ro’n i’n defnyddio tair neu bedair gwefan ar unwaith wrth i fi ddarllen ac ysgrifennu bob dydd. Gweithiodd hynny’n weddol, ond ddim mor hawdd na chyfleus ag o’n i wedi gobeithio.

Yna, soniodd fy ffrind Huw yn ne Cymru am y wefan Gweiadur.com – a newidiodd popeth!

Sylweddolais i’n syth mai dyma oedd y wefan berffaith i mi. Ar ôl defnyddio Gweiadur am wythnos neu ddwy, sylwais fod fy sgiliau yn gwella’n gyflymach, ac roedd popeth yn haws. Mae un wefan hawdd a chyflym yn golygu mwy o ddysgu mewn llai o amser. Dyna’r holl bwynt!

Gweiadur

‘Arf cyfrinachol’

Heb Gweiadur fel rhan ganolog fy mywyd Cymraeg, allwn i ddim bod wedi dechrau ysgrifennu’r golofn hon y llynedd, ar ôl dim ond blwyddyn fel dysgwr – dw i ddim yn gor-ddweud. Dw i’n ystyried Gweiadur fel fy “arf cyfrinachol” fel siaradwr newydd.

Beth sy’n gwneud Gweiadur yn wahanol i adnoddau ar-lein eraill? Dyma’r nodweddion sy wedi bod yn fwya’ defnyddiol i mi hyd yn hyn:

  • Y gallu i chwilio yn Saesneg neu Gymraeg (yn awtomatig)
  • Y gallu i chwilio am ffurfiau treigledig, rhediadol, a thafodieithol
  • Y gallu i gael canlyniadau hyd yn oed gyda chamsillafiad yn y chwiliad
  • “Modd Dysgu” gyda chôd lliwiau ac esiamplau rhagenwau ac wrth gyfri
  • Cyngor gramadegol am ddefnydd geiriau
  • Thesawri Cymraeg a Saesneg/Cymraeg
  • Enwau lleoedd Cymraeg safonol, a
  • Ffeiliau sain ynganiad.

Cafodd Gweiadur ei chreu gan awdur a geiriadurwr ers mwy na 40 mlynedd D Geraint Lewis, a’i fab Nudd Lewis sy’n ddatblygwr meddalwedd, awdur, a chyn-aelod Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn 2007, sefydlodd Nudd y cwmni meddalwedd ddwyieithog “Gwerin” – a ddatblygodd y wefan Gweiadur. Mae’n parhau i’w chynnal heddiw.

Dros amser, ro’n i’n sylwi bod enw D Geraint Lewis ar lawer o lyfrau Cymraeg – geiriaduron, gwerslyfrau am arddodiaid, ansoddeiriau, berfenwau, treigladau, idiomau, a mwy. Rhywbeth i bawb. Gofynnais i fy nhiwtor Cymraeg cyntaf am yr enw D Geraint Lewis, a ches i ateb syml yn syth: “Y Dyn yw e!”

Mae gen i dipyn o ffordd i fynd eto wrth ddringo i fyny’r Mynydd Cymraeg. Ond diolch i fy nhiwtoriaid anhygoel a’r wefan Gweiadur, rhyw ddydd dw i’n gobeithio gweld y copa yn y pellter.

I ddod yn Rhan 2:

Yn ystod fy nhaith o amgylch Cymru eleni, ro’n i’n ddigon ffodus i gwrdd â Nudd a D Geraint Lewis yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a ro’n nhw’n ddigon caredig i ateb fy nghwestiynau i Lingo360