Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n dweud pa mor bwysig ydy gwarchod enwau tai…
Un o’r pethau mwyaf braf (i mi, o leiaf) am Gymru yw’r ffaith bod gan dai enwau. Mae enwau tai’n ffordd hawdd i ddod i adnabod hanes, diwylliant, ac iaith y fro. Mae’n amlwg pam fyddai fferm angen enw, er mwyn ei wahaniaethu rhwng y ffermydd eraill yn yr ardal, ond pam bod angen enw ar dŷ ynghanol stryd drefol? Oni fyddai galw fo’n Rhif Un, Stryd y Capel yn haws? Dw i’n credu bod yr awydd i roi enw ar bob dim yn dweud rhywbeth pwysig am ein diwylliant ni fel Cymry. Dyma, wrth gwrs, pam bod pobl yn cynddeiriogi cymaint pan mae enwau tai’n cael eu newid.
Addysgu am bwysigrwydd enwau
Un o’r rhesymau y cafodd y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol ei sefydlu yn y lle cyntaf oedd perswadio pobl i beidio â newid enwau tai. Rhan o’r broblem, wrth gwrs, yw’r ffaith bod y bobl sy’n newid enwau yn aml iawn ddim yn gallu deall eu hystyr, nac yn gwybod unrhyw beth am eu hanes. Dydyn nhw ddim yn gallu gwerthfawrogi pwysigrwydd na gwerth yr enwau. Rhaid mynd ati i’w haddysgu.
Dw i wedi sôn o’r blaen yn y golofn hon am ein gwaith o gasglu enwau caeau, creigiau ac ati, er mwyn eu gwarchod. Ond mae’n bwysig cofio ein bod ni’n gwneud yr un peth gydag enwau tai. Trwy fynd trwy’r cofnodion hanesyddol a dod o hyd i enwau tai, dyn ni’n gallu dangos sut maen nhw wedi datblygu trwy’r canrifoedd, a pha mor hen maen nhw. Unwaith maen nhw wedi cael esboniad am ystyr yr enw, a’r ffaith ei fod o leiaf 300 mlynedd oed, er enghraifft, ychydig iawn o bobl sy’n dal i ddweud “ylwch, dw i’n gwybod ei fod o’n mynd nôl i Oes y Tuduriaid, ond dw i dal yn meddwl bod Pretty Pony Paddock yn well enw”.
Y Fenni-fach
Mae’n anodd cael tystiolaeth gadarn am faint yn union o enwau sydd wedi cael eu cadw oherwydd ein gwaith, ond dyn ni’n gwybod bod nifer y ceisiadau i newid enwau wedi gostwng yng Ngheredigion, er enghraifft.
Mae’n cymryd llawer iawn o waith i ddarganfod hanes pob tŷ yn y wlad sydd mor hen â hynny, wrth gwrs. Gallwn ni ddim dweud ein bod ni wedi dod yn agos at orffen y gwaith, ond wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, dyn ni’n llwyddo i olrhain datblygiad enwau mwy a mwy o dai. Yr hynaf dyn ni wedi darganfod (hyd yn hyn), yw Fenni-fach y tu allan i Aberhonddu. Mae’n bosibl bod tŷ o’r enw wedi sefyll yno ers mil o flynyddoedd. Dyna’r math o hanes all gael ei golli os yw enw’n cael ei newid.