Mae Gill Yates yn byw yn Niserth yn Sir Ddinbych ac yn dysgu Cymraeg gyda Popeth Cymraeg. Yma mae hi wedi ysgrifennu eitem am ei her o wneud teithiau cerdded i weld y bryngaerau hynafol yng ngogledd Cymru…
Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe brynodd fy ngŵr lyfr bach o’r enw Walks to Ancient Hillforts of North Wales gan David Berry – a dyna ddechreuodd yr her – i’w cwblhau nhw i gyd! Mae ’na 30 ohonyn nhw, efo amrywiaeth eang o deithiau cerdded.
Mae’r llyfr yn cynnwys teithiau cerdded o Fryniau Clwyd a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i Ben Llŷn. Mae gan bob taith gerdded fap efo manylion clir o’r llwybrau.
Dechreuon ni efo bryngaerau lleol cyn mentro ymhellach a rŵan dan ni wedi gwneud 27 ohonyn nhw. Gellir gweld olion aneddiadau hynafol a adeiladwyd yn ystod Oes yr Haearn.
Adeiladwyd llawer ohonyn nhw i fyny bryniau serth efo, wrth gwrs, golygfeydd bendigedig o gwmpas gogledd Cymru. Dach chi’n gallu gweld y rhagfuriau ar rai o hyd a gallwch ddychmygu sut roedd pobl yn arfer byw yno mewn tai crwn gyda’u hanifeiliaid.
Fy hoff fryngaer? Anodd iawn deud! Ond un o’r heriau mwyaf oedd Moel y Gest ger Morfa Bychan, Pen Llŷn. Yr un efo’r golygfeydd gorau oedd Castell Caerau ger Garndolbenmaen, pedair milltir o Dremadog. A’r un efo’r rhagfuriau sydd wedi’u cadw orau yw Penycloddiau, ar Lwybr Clawdd Offa, efo golygfeydd helaeth.
Mae tirwedd gogledd Cymru yn anhygoel ac yn brydferth a dylai pawb ei archwilio. Un argymhelliad: mae’n well caniatáu mwy o amser ar gyfer y teithiau cerdded nag sy’n cael ei awgrymu yn y llyfr er mwyn treulio amser yn mwynhau’r golygfeydd syfrdanol yn y rhan hon o Gymru.