Beth am gael hwyl gyda geiriau? Mae Pegi Talfryn wedi gosod y tasgau newydd yma. Mae hi’n awdur ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Popeth Cymraeg.
Dyma 10 pâr o eiriau sy’n hollol wahanol i’w gilydd. Beth ydy ystyr y geiriau?
Dach chi’n gallu cysylltu’r geiriau yn y gêm yma?
Dach chi’n gallu ysgrifennu brawddegau gyda’r geiriau?
Nos – Dydd
Cyrraedd – Gadael
Iau/Ifancach – Hŷn/Henach
Gwell – Gwaeth
I’r dde – I’r chwith
Cyfoethog – Tlawd
Deallus – Twp
Bach – Mawr
Gallu – Methu
Absennol – Presennol
Mae Lingo360 eisiau gweld eich gwaith chi.
Dach chi’n gallu rhannu eich gwaith yn y sylwadau, neu drwy’r ffurflen gysylltu.