Mae Floriane Lallement yn gantores a chyfansoddwraig. Mae hi’n dod o Ffrainc yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala. Mae hi wedi dechrau dysgu Cymraeg ac yn perfformio ambell gân yn Gymraeg erbyn hyn. Ym mis Mai, mae hi’n mynd ar daith o gwmpas gogledd Cymru. Yma, mae hi’n ateb cwestiynau Lingo360…
Floriane, pam wnaethoch chi symud o Ffrainc i Lanuwchllyn?
Pum mlynedd yn ôl wnes i symud o Ffrainc i Lundain. Cefais ychydig o broblemau iechyd a phenderfynu symud i ardal wledig. Wnes i ddod ar wyliau i ardal Y Bala, a syrthio mewn cariad â’r lle. Wnes i ffeindio tŷ bach i’w rentu a wnes i symud yma yn syth.
Dach chi wedi dechrau dysgu Cymraeg. Dywedwch ychydig mwy am eich taith i ddysgu Cymraeg…
Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ym mis Ionawr y llynedd. Trwy fyw yn Llanuwchllyn dw i wedi cael fy nhrochi yn llwyr mewn diwylliant Cymraeg. Wnes i ddechrau gwersi yn y Bala a dw i wedi cario mlaen ar-lein hefo Dysgu Cymraeg, a SaySomethingInWelsh a Duolingo. Dw i yn rhoi gwersi Ffrangeg bob wythnos i Alwyn Sion, sydd hefyd yn byw yn Llanuwchllyn, lle dan ni yn cael paned a sgwrsio yn Ffrangeg a Chymraeg! Mae’n rhaid i mi gyfaddef mai dyma’r iaith anoddaf dw i wedi ei dysgu ond hefyd yr un mwyaf hardd. Dw i ddim yn rhugl eto ond dw i wrth fy modd hefo agwedd cymunedol y Cymry. Dw i’n aelod o’r clwb gwau ac yn cael cyfle i sgwrsio yno hefyd. Pan symudais i Lundain doeddwn i ddim yn siarad dim Saesneg. Wnaeth hi gymryd dwy flynedd i fi ddysgu Saesneg. Dw i’n gobeithio na’i ddysgu Cymraeg yn yr un amser!
A sut mae eich bywyd wedi newid ers symud i Lanuwchllyn – oes gwahaniaeth mawr?
Mae bywyd wedi newid llawer iawn! Roeddwn i yn mwynhau bywyd prysur yn Llundain ac roeddwn yn perfformio pum noson yr wythnos yn Soho, ond mae bywyd mewn dinas yn gallu bod yn ormesol. Yn amlwg mae pethau llawer mwy tawel yma a dw i yn mwynhau hynny ond eisiau perfformio mwy. Dw i’n teimlo fod byw yng Nghymru yn ddechrau newydd. Dw i wrth fy modd yma a dw i’n edrych ymlaen at ganu dan fy enw fy hun.
Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn cerddoriaeth?
Wnes i dyfu fyny yn Saint Tropez a wnes i ddechrau dysgu offerynnau yn chwech oed. Doeddwn i ddim yn rhy hoff o’r ysgol felly mi wnes i adael pan oeddwn i’n 15 oed. Wnes i fynd yn brentis yn dysgu sut i osod blodau. Pan oeddwn yn 19 oed wnes i symud i Marseilles i astudio peirianneg sain. Wedyn wnes i astudio cerddoriaeth, theatr musicale a dawns mewn tri conservatoire a phrifysgolion. Yn Marseilles roedd gen i gwmni cerddoriaeth ac roeddwn mewn llawer o fandiau (Joulik, Les dames de la joliette, Yam, Piel Canela…) ac yn canu dan fy enw llwyfan Fleur Sana.
Sut fasach chi’n disgrifio eich cerddoriaeth?
Eclectig! Dw i wedi cael fy nylanwadu gan wahanol genres ac wrth fy modd yn eu cynnwys yn fy ngwaith – pop/ffync/hip-hop/gwerin/roc/jazz. Dw i’n chwarae hefo dau gerddor ifanc talentog ofnadwy – Osian Lewis Smith (piano) a Will Slaney (gitâr a drymiau) ac maen nhw yn ychwanegu cyffyrddiad jazz a ffync i fy ngwaith gwreiddiol, a dw i wrth fy modd efo hynny.
Pa offerynnau dach chi’n chwarae?
Dw i yn chwarae bas, piano, cajon, darbouka a’r acordion. Mae’n well gen i chwarae gitâr fas gan fod tannau gitâr arferol yn rhy boenus!
Ai dyma fydd y tro cyntaf i chi fynd ar daith yng Nghymru?
Dw i wedi gwneud ambell gig yn canu jazz ond dyma fydd y tro cyntaf ers dwy flynedd i fi ganu fy repertoire gwreiddiol.
Ydach chi’n edrych mlaen at weld ymateb cynulleidfa Gymraeg?
Dw i methu aros! Dw i wedi bod yn lwcus i fod yn bresennol mewn sesiynau cerddoriaeth hefo cerddorion o Gymru (Bwncath, Gwilym Bowen Rhys, Osian Williams, Elis Derby) lle mae pawb yn cyd-ganu. Doedd gen i ddim syniad fod pawb yn canu drwy’r amser yng Nghymru – mae wedi gwneud i fi deimlo yn gartrefol ar unwaith.
Dyma le fydd Floriane yn perfformio ym mis Mai:
Dydd Gwener 17/05/24 yn y Magic Lantern , Tywyn, 9yh. Mynediad am ddim
Dydd Gwener 24/05/24 yn The Torrent, Dolgellau, 6yh. Mynediad am ddim
Dydd Sadwrn 25/05/24 yn Stori, Bala, £6 wrth y drws – yn rhannu’r llwyfan â Gwilym Bowen Rhys
Dydd Sadwrn 18/05/24 yn Penrhyn Arms, Llandudno, 8:30yh. Mynediad am ddim
Dydd Sadwrn 31/05/24, yn Pant yr Ardd, Tregarth, Bangor 8yh, £5 wrth y drws.
Mae rhagor o wybodaeth yma