Dach chi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd ym Meifod heddiw (dydd Mercher, 29 Mai)?

Bydd enillwyr Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei roi i bobl ifanc Blwyddyn 10 a dan 19 oed. Cafodd y wobr ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Ogwen 1987. Alex Borders o Brestatyn oedd yr enillydd cyntaf.

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei roi i bobl ifanc rhwng 19 a 25 oed sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r fedal er cof am y bardd, yr Athro Bobi Jones. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cymdeithas y Dysgwyr.

Cafodd gwobr goffa Bobi Jones ei chyflwyno am y tro cyntaf erioed yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Enillydd cynta’r fedal oedd Adam Williams, o Fagwyr.

I ennill y fedal, mae’n rhaid i’r cystadleuwyr ddangos sut maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith, ac yn gymdeithasol, a sut maen nhw’n hyrwyddo’r Gymraeg i bobol eraill.

Yn y rownd derfynol, mae’r cystadleuawyr yn gwneud llawer o wahanol dasgau ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y bore. Y beirniaid ar gyfer y ddwy wobr eleni yw Karina Wyn Dafis a Cyril Jones.

Y llynedd Gwilym Morgan o Ben-y-bont ar Ogwr oedd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Yvon-Sebastien Landais (Seb) o Ddinbych y Pysgod oedd wedi ennill Medal Bobi Jones.

Mae seremoni Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yn cael eu noddi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Medal Dysgwyr yn cael ei rhoi gan Gyngor Sir Powys a Medal Bobi Jones gan Fenter Maldwyn.

Mae pob seremoni eleni yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn am 2.30yp.

Dyma ychydig o eiriau defnyddiol os dach chi’n mynd i’r Eisteddfod yr wythnos hon:

Cystadlu – compete

Gwobr – prize

Beirniaid – judges

Llwyfan – stage

Coron – Crown

Cadair – Chair

Pabell – tent

Cymryd rhan – take part

Canu – sing

Unawd – solo

Côr – choir

Enillydd/enillwyr – winner/winners

Mwynhau – enjoy

Da iawn – well done