Mae Al Lewis yn ganwr-gyfansoddwr dwys a difrifol.
Yn ffodus i ni gyd, mae e hefyd yn artist recordio toreithiog. Mae wedi rhyddhau naw albwm a phump EP ers 2009 – rhai yn Gymraeg, rhai yn Saesneg.
Fe wnes i ddarganfod cerddoriaeth Al Lewis fel rhan o fy “saffari caneuon” i ddod o hyd i albymau Cymraeg i ddatblygu fy sgiliau gwrando ar ôl dechrau dysgu Cymraeg yn 2022. Felly dechreuais i wrando ar albymau Al Lewis Band, fel Sawl Ffordd Allan (2009), Heulwen o Hiraeth (2014), a Pethau Bach Aur (2018).
Ar ôl hynny des i ar draws Battles (2013), a gafodd ei recordio yn Nashville. Mae’r holl ganeuon ar Battles yn Saesneg heblaw Llosgi, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2007. Roedd Battles mor dda, tynnodd yr albwm fy sylw dros dro oddi wrth gerddoriaeth Gymraeg! Mae Al Lewis hefyd wedi rhyddhau’r albwm Ghost (2016) yn Saesneg, gyda’r artist Americanaidd Alva Leigh – fel Lewis & Leigh – yn ogystal â sawl EP. Ardderchog, un ac oll.
Mae catalog Al Lewis yn dangos safon uchel iawn o ysgrifennu, canu, a dawn gerddorol, ac yn profi ei fod yn artist arbennig sy’n gallu disgleirio mewn ystod eang o sefyllfaoedd cerddorol. Ond mae Lewis yn artist dewr, hefyd.
Bu farw tad Lewis 15 mlynedd yn ôl, pan oedd Al yn ei ugeiniau cynnar. Er ei fod wedi cyfeirio at ei dad mewn caneuon yn y gorffennol, nid oedd wedi canu mor uniongyrchol amdano nes ei albwm newydd – Fifteen Years.
Mae Fifteen Years yn albwm pwerus a phersonol. Cafodd ei gynhyrchu gan Lewis ei hun, gyda chriw arbennig o gerddorion. Mae’r cynhyrchiad cyfan yn ardderchog, ond y caneuon a llais Lewis yw sêr y sioe.
Mae Sunshine in Sorrow yn gân hardd oedd yn ymddangos yn Gymraeg fel Heulwen o Hiraeth ar yr albwm o’r un enw yn 2014. Nesa yw’r caneuon teimladwy Never Be Forgotten, In My Daughter’s Eyes, a Where Do I Go from Here. Yn Fatherly Guidance, mae Lewis yn cofio ei blentyndod gyda’i dad, ac yn Thirty Five mae e’n canu am ddod o hyd i obaith.
Mae’r trac teitl yn dechrau gyda Lewis yn canu, “I finally cleared your house out — it only took me fifteen years” cyn disgrifio’r atgofion oedd yn gorlifo’n ôl bryd hynny. Mae The Farmhouse yn dilyn, lle mae Lewis yn canu yn Saesneg a Chymraeg i roi pŵer ychwanegol i’r neges am y newidiadau dros Gymru sy’n erydu’r diwylliant dros amser. Mae Feels Like Healing yn edrych tuag at y dyfodol yn optimistaidd, cyn i Beginning to Find You orffen yr albwm yn berffaith gyda dim ond piano a llais.
Mae Lewis hefyd yn cyflwyno podlediad o’r enw Feels Like Healing, gyda chyfweliadau a thrafodaethau gyda phobl sy’n defnyddio creadigrwydd i help gyda galar.
Mae Al Lewis wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360…
Pawlie: Dros ba gyfnod o amser cafodd y caneuon ar Fifteen Years eu hysgrifennu?
Al: Rhwng Ebrill 2021 a Hydref 2022.
Pawlie: Faint o amser wnaethoch chi dreulio yn recordio a chymysgu’r albwm?
Al: Gan ei bod hi’n ystod y cyfnodau clo, mi o’n i’n cychwyn y broses o recordio bron yn syth wrth sgwennu’r caneuon, felly mi oedd y caneuon yn esblygu wrth i mi weithio arnyn nhw. Mi oedd y cyfnod sgwennu a recordio a chymysgu o hyd yn gorgyffwrdd gan mod i’n gweithio ben fy hun rhan helaeth o’r amser.
Pawlie: Oedd unrhyw fomentau teimladwy yn ystod cynhyrchu’r albwm?
Al: Ma’r caneuon yma’n hynod o bersonol i fi, ac felly o’dd na sawl cyfnod lle o’dd yr atgofion yn dod â deigryn i’r llygad ond, eto, mi o’dd hi’n brofiad cathartig i ail-afael yn f’atgofion i o Dad o fy mhlentyndod.
Pawlie: Heblaw am Heulwen o Hiraeth, a oes (neu a fydd) fersiynau Cymraeg o’r caneuon hyn?
Al: Sgenna’i ddim plannie i wneud – ond pwy a ŵyr!
Pawlie: Mae’ch caneuon yn cysylltu â phobl dros Gymru a’r byd. Ar wahân i fynd i’r afael â’r broses greadigol gyda chalon agored ac onest – sy’n amlwg o’ch albymau – oes unrhyw beth yn benodol y byddwch yn ei gadw mewn cof wrth sgwennu a recordio?
Al: I drio adlewyrchu’r hyn dw i’n drio ei gyfleu mewn ffordd mor onest ac mor uniongyrchol a dw i’n gallu…
Pawlie: Ydy eich gyrfa hyd yn hyn wedi teimlo fel un arc fawr, neu wedi’i diffinio gan wahanol gyfnodau? Oes unrhyw beth wedi newid yn eich proses greadigol dros y blynyddoedd?
Al: Weithie ma’n teimlo fel mynd o gwmpas mewn cylch, ond weithie hefyd ma’n teimlo fel cyfnodau penodol. Yn sicr yn y cychwyn o’n i’n chwilio am “fy sain” ac yn arbrofi i drio swnio fel fy arwyr. Bellach dw i’n fwy cyffyrddus ac yn nabod fy hun yn well. Ond dw i’n sicr rŵan yn rhoi lot mwy o bwysigrwydd ar y geirie nag o’n i yn y cychwyn.
Pawlie: Mae’ch fideos ar gyfer yr albwm yn hyfryd – ond mor bwerus. Sut wnaethoch chi ddod i weithio gyda Sam Rhys James [oedd wedi cynhyrchu’r fideos]?
Al: Diolch. Ma’ Sam yn hen ffrind, o’i ddyddiau fe yn bandiau fel Poppies, The Heights a Rogues. O’n i’n gwybod fod o bellach yn gweithio yn y byd teledu a ffilms felly nesh i ofyn os fydde diddordeb ganddo fe i helpu fi greu fideos i’r caneuon. Dw i’n hapus iawn efo be wnaeth o greu.
Pawlie: Mae rhai ohonon ni yn dal i ganolbwyntio ar albymau, ond mae’r diwydiant wedi newid. Beth yw’ch barn am ffrydio a sylw byr gwrandawyr ac ati?
Al: Ma’n anodd dyddie yma efo’r ffaith fod pobl yn gyffredinol ddim yn rhoi amser i albwm fel oedden nhw’n arfer neud. Weithie ma caneuon yn cymryd amser i’w hadnabod a’u gwerthfawrogi ond dyddie ma dydi pobl ddim yn fodlon buddsoddi’r amser i weld hynne, sy’n drist. Ond falle fod pethe’n mynd i newid… gawn ni weld.
Pawlie: Unrhyw gyngor i artistiaid Cymraeg newydd sydd eisiau adeiladu gyrfa mewn cerddoriaeth?
Al: Dysgwch sut i recordio’ch hunain ac ewch ati i arbrofi… a sgwennwch lwyth o ganeuon!