Fferyllydd ydy Irram Irshad sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Cymraeg. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr newydd – casgliad o farddoniaeth a chasgliad o straeon arswyd. Mae cyfle i chi ennill copi o’r llyfrau yn y gystadleuaeth. Yma mae Irram yn ateb cwestiynau Lingo360…


Casgliad o farddoniaeth Irram Irshad

 Irram, pryd wnes di ddechrau ysgrifennu?

Ro’n i’n arfer ysgrifennu pan o’n i’n fy arddegau. Ro’n i eisiau bod yn awdur, ond dwedodd fy mam, mam-gu a fy nhad-cu, “nid yw ysgrifennu yn rhoi bwyd ar y bwrdd!”. Felly dewison nhw fferylliaeth i fi! 30 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl ychydig flynyddoedd o iechyd gwael, y pandemig, a cholli fy mam-gu, penderfynais i wneud rhywbeth i fi. Dechreuais i gwrs ysgrifennu creadigol gyda Phrifysgol Caerdydd. Roedd fy nhiwtor mor ysbrydoledig, roedd hi’n hawdd i fi ddechrau ysgrifennu eto.  Roedd ysgrifennu ar gyfer Lingo360 a’r cylchgrawn plant Cip wedi rhoi’r hyder i fi ysgrifennu fy llyfrau fy hun.

Llyfr arswyd Irram Irshad

Am beth mae’r ddau lyfr ti newydd gyhoeddi?

Ym mis Gorffennaf wnes i hunan-gyhoeddi dau lyfr dwyieithog. Mae un yn gasgliad o farddoniaeth – Cymraeg, Asiaidd a Balch. Mae’r llyfr arall yn gasgliad o straeon byrion arswyd – Fe Ddaw Atom Ni Oll.  Dw i’n lwcus iawn achos mae deg siop lyfrau eisoes yn gwerthu’r llyfrau yn ne Cymru, fel Cant A Mil yng Nghaerdydd sy’n gwerthu ar-lein. Dw i’n gobeithio yn ystod y misoedd nesa’ y byddan nhw ar gael mewn siopau o gwmpas Cymru.

Beth sydd wedi ysbrydoli’r cerddi a’r straeon arswyd?

Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu ffuglen, a dw i’n hoffi straeon arswyd a dirgelwch. Fy hoff awduron yw Susan Hill, James Herbert, Phil Rickman ac Agatha Christie. Yn ystod y cwrs ysgrifennu, wnes i ddarganfod fy mod yn hoffi ysgrifennu barddoniaeth hefyd. Y gerdd gyntaf wnes i ysgrifennu oedd am fy mam-gu, a fu farw yn 2021. Dyma’r tro cyntaf i fi allu ysgrifennu am ei cholli. Mae mor arbennig i fy nheulu i gyd, a dyna’r gerdd gyntaf yn y llyfr.

Ydy’r llyfrau yn addas i ddysgwyr?

Mae’r llyfrau yn addas ar gyfer pobl ifanc (nid plant) ac oedolion. Mae’r Gymraeg yn addas i unrhyw un sy’n gwneud, neu sydd wedi gwneud, lefel Canolradd a thu hwnt.

Cymraeg, Asiaidd a Balch – £6

Fe Ddaw Atom Ni Oll – £8


Cystadleuaeth

Mae cyfle i ennill dau gopi o lyfrau Irram Irshad. Y cwbl sydd angen i chi wneud ydy ateb y cwestiwn yma ac anfon eich ateb, gyda’ch enw llawn a chyfeiriad at: bethanlloyd@golwg.cymru erbyn dydd Gwener, 16 Awst.

 Dyma’r cwestiwn: Mae’r awdures Susan Hill yn un o hoff awduron Irram. Pa un o’i llyfrau sydd wedi cael ei wneud yn ddwy ffilm a drama lwyfan yn y West End?