Olive Keane, sy’n bwy yn Iwerddon, sy’n son am ei phrofiadau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yr wythnos ddiwethaf. Mae Olive yn dysgu Cymraeg ar-lein efo Popeth Cymraeg ac ar lefel Canolradd…
Dach chi erioed wedi gweld y Fari Lwyd yn dawnsio mewn i ystafell? Hen benglog ceffyl, efo golau yn lle llygaid, yn cael ei gario? Welais i hi yn ddiweddar ac roedd y profiad yn newydd i fi hefyd..
Gadewch i fi egluro o’r dechrau…
Dysgwr Cymraeg ydw i sy’n byw yn Iwerddon. Mis ges i fy ngeni a fy magu yma – Gwyddeles go iawn ydw i sy’n siarad Gwyddeleg. Ond rŵan dw i wedi syrthio mewn cariad efo’r iaith Gymraeg. Yn anffodus dw i ddim yn cael cyfle i siarad efo pobl eraill, wyneb yn wyneb, yn aml. Ond mi ges i gyfle anghredadwy pan ddaeth pobl o Gymru i Iwerddon.
Ar ôl y Pasg mi es i Carlow oherwydd roedd gŵyl fendigedig, yr Ŵyl Ban Geltaidd, yn cael ei chynnal. Daeth pobl o’r Alban, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw ac Iwerddon i ddathlu ieithoedd, diwylliannau a cherddoriaeth pob gwlad. Daeth y rhan fwyaf o Gymru a llysgenhadon gwych oedden nhw i gyd. Treuliais i lawer o amser yn annog nhw i siarad Cymraeg efo fi ac roedd pawb yn garedig ac yn amyneddgar iawn.
Bob dydd roedd gweithdai ar bynciau gwahanol, er enghraifft gweithdy dawnsio o Lydaw, yr Alban ac Iwerddon, sgwrs mewn ieithoedd newydd ac ati. Rhannodd Màrtainn Mac A Bhàillidh wybodaeth am ddatblygu Duolingo Gwyddeleg yr Alban. Clywais i Fanaweg am y tro cyntaf. Roedd gynnon ni i gyd llawer i ddysgu oddi wrth, ac am, ein gilydd.
Pob prynhawn a nos clywais i delynau – mawr a bach – lleisiau – uchel ac isel, ond wastad yn soniarus. Roedd y bandiau ‘Paid Gofyn’, ‘Lo Fi Jones’ a’r ‘Brodyr Magee’ wedi ein diddanu ni pan oedden ni’n ymlacio ac yn mwynhau diod fach.
Hwyl yr ŵyl
Nid hwyl a gemau oedd y cyfan. Roedd cystadlaethau dawnsio, cerddoriaeth a chanu yn digwydd. Teithiodd corau o ogledd a de Cymru ac, yn rhyfedd, Côr o Lundain. Mae pawb yn y côr yn siarad Cymraeg ac, yn rhyfedd eto, mae dyn sy’n siarad Gwyddeleg hyfryd Donegal yn canu efo nhw. Chwarae teg iddo fo.
Nos Wener oedd nos ‘Clwb Cymru’ yn y gwesty. Daeth pob diddanwr ar y llwyfan i berfformio – un ar ôl y llall, tra roedd y dorf yn yr ystafell yn dawnsio a chanu. Canodd côr meibion Yma o Hyd ac fe gawson nhw’r gymeradwyaeth hiraf a mwya’ swnllyd.
A dyma pryd y gwelais i’r Fari Lwyd yn dod i mewn, ei phen yn uchel, a’i rhubanau yn llifo. Roedd hi’n edrych yn hynafol, yn frenhinol ac yn falch. Arweiniodd hi gwmni o ddawnswyr mewn gwisgoedd traddodiadol i ganol y gystadleuaeth i ddawnsio. Noson wych – a noson hwyr!
Y prynhawn wedyn atseiniodd strydoedd y dre efo cerddoriaeth y bacbibau, gitarau a mwy yn ystod y parêd mawr i ddathlu diwedd yr ŵyl. Ond yn codi dros rain i gyd roedd lleisiau pobl Cymru, yn canu yn eu hiaith hyfryd, fyw…
Yma o Hyd… er gwaetha pawb a phopeth.
Gurb fhada buan sibh.