Dach chi’n hoffi darllen? Dach chi’n hoffi ysgrifennu? Os dach chi, beth am gymryd rhan yng Ngŵyl Amdani?

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal yr ŵyl unwaith eto eleni. Mae Gŵyl Amdani yn dathlu darllen. Bydd hi’n digwydd rhwng 4 ac 8 Mawrth 2024.

‘Amdani’ yw’r llyfrau darllen i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae dros 40 o deitlau ar gael erbyn hyn – yn llyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar.

Fel rhan o’r ŵyl, mae’r Ganolfan wedi gofyn i ddysgwyr Mynediad ysgrifennu adolygiad o un o lyfrau Amdani.  Mae’r manylion ar dudalen Gŵyl Amdani ar dysgucymraeg.cymru.

Clwb Darllen

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae Clybiau Darllen wedi dod yn boblogaidd iawn.

Felly, ar nos Fercher 6 Mawrth bydd Clwb Darllen ar Zoom gyda phump awdur: Lois Arnold, Pegi Talfryn, Zoe Pettinger, Mared Lewis ac Aled Hughes. Bydd un awdur ar gyfer y pump lefel Dysgu Cymraeg.  Mae croeso i bawb. Dych chi’n gallu cofrestru trwy ddilyn y ddolen uchod.

Fideo Bethan Gwanas

Yn ystod yr wythnos, byddwch chi’n gallu darllen am awduron ar dudalen Gŵyl Amdani ar dysgucymraeg.cymru a bydd fideo newydd gyda Bethan Gwanas.

Mae Bethan yn dweud: “Dw i’n hapus iawn i gefnogi Gŵyl Amdani achos mae darllen yn help mawr yn y broses ddysgu. Mi wnes i astudio Ffrangeg yn y brifysgol ac roedd darllen yn help mawr.  Ond hefyd, mae pawb yn hoffi stori dda ac mae ’na lawer o storïau da yng nghyfres Amdani.”

Anni Llyn

Caneuon pop

Mae canu yn thema bwysig yn y Ganolfan ar hyn o bryd. Mae’r Ganolfan wedi gweithio gyda chwmni Lirica i gael 30 o ganeuon Cymraeg ar ap Lirica.

Mae’r ap yn eich helpu i ddysgu ychydig o Gymraeg wrth wrando ar gân. Felly, ar nos Iau Gŵyl Amdani, eto ar Zoom, bydd sesiwn ysgrifennu cân yng nghwmni Anni Llŷn.  Cofrestrwch ar dudalen Gŵyl Amdani.

Darllen gyda phlant

Mae llawer o rieni’n dysgu Cymraeg i helpu’r plant ac mae darllen i blentyn yn bwysig iawn.

I helpu rhieni i ddewis llyfrau sy’n iawn iddyn nhw ac i’r plant, mae’r Ganolfan wedi gweithio gyda Jo Knell o siop Cant a Mil yng Nghaerdydd i roi syniadau. Felly ewch Amdani!

Gŵyl Amdani, rhwng 4 ac 8 Mawrth

Mae Clybiau Darllen wedi dod yn boblogaidd