Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n edrych ar sut mae plant yn cael eu haddysgu am enwau lleol…


Arwydd Pen Bryn Pele

Dyn ni’n clywed yn aml iawn bod eisiau gwneud mwy o ddefnydd o’n henwau lleoedd ni. Dyna un o’r rhesymau y tu ôl i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, a sefydlu’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol y flwyddyn wedyn. Y syniad oedd gwarchod enwau tai, a sicrhau bod strydoedd a datblygiadau newydd yn cael eu henwi gydag enwau hanesyddol, yn lle enwau newydd a gafodd eu creu ar fympwy.

‘Deall ein bro’n well’

Mae enwau lleoedd yn rhan o’n hunaniaeth leol. Maen nhw’n disgrifio’r dirwedd lle dyn ni’n byw, ac yn rhoi cipolwg ar hanes ein bro. Wrth eu deall, mae deall ein bro’n well. Does rhyfedd felly, eu bod nhw’n rhan fawr o syniad Cynefin, sy’n chwarae rhan fawr yn y Cwricwlwm Newydd yn yr ysgolion. Sut felly mae addysgu plant am eu henwau lleol, a magu teimlad o berthyn ynddyn nhw? Mae Ysgol Gymunedol Talybont yng Ngheredigion wedi cymryd y cam o wreiddio enwau lleoedd yng ngwaith yr ysgol trwy ail-enwi’r dosbarthiadau i gyd gydag enwau lleoedd hanesyddol.

Cymerwch yr enw yn y llun uchod er enghraifft. Pen Bryn Pele yw’r ardal ar wyneb y bryn y tu ôl i’r ysgol. Os edrychwch chi ar y map, dydy’r enw ddim yn ymddangos. Ychydig iawn o bobl y pentref oedd hyd yn oed yn cofio bod enw ar y lle o gwbl! Diolch byth, roedd un o bobl hynaf yr ardal yn ei gofio, felly dyma ddod â’r enw’n fyw unwaith eto. Mae’r plant i gyd yn gwybod ble mae Pen Bryn Pele erbyn hyn.

Braich Garw

Mae Dosbarth Braich Garw wedi’i enwi ar ôl y graig sydd uwchben Afon Leri, gyferbyn â’r ffordd i fyny i Bontgoch. Mae tŷ o’r un enw ar waelod ochr y graig ers o leiaf 1656, gan ei wneud yn un o’r enwau hynaf yn y plwyf i oroesi.

 

 

 

Allt y Crib

Allt y Crib yw’r bryn serth ar ochr arall y pentref. Cafodd ei enw oherwydd bod siâp y bryn yn debyg i grib. Roedd Talybont yn bentref mwyngloddio ac, fel mae’r llun yn dangos, bu nifer o fwyngloddiau ar Allt y Crib. Mae dod i nabod y lle’n ffordd dda iawn o ddysgu am hanes diwydiannol y pentref.

 

 

 

Mynydd Gorddu

Mae Mynydd Gorddu’n sefyll uwchben pentref Bontgoch. Mae’n un o bentrefi arall yn nalgylch yr ysgol. Mae fferm o’r un enw wrth droed y mynydd, a bu mwynglawdd yma tan yr ugeinfed ganrif. Heddiw mae fferm wynt ar ben y mynydd. Mae defnyddio’r enw hwn yn ffordd o gysylltu hen ddiwydiannau’r ardal gyda’r rhai cyfredol. O ddysgu enwau newydd eu dosbarthiadau, mae’r plant wedi dod i nabod tipyn am hanes a threftadaeth eu hardal.