Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn bob mis i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n sôn am enwau lleoedd Nadoligaidd…
Daeth Cristnogaeth i Gymru’n gynnar iawn. Oherwydd hyn, mae’r Nadolig yn cael ei dathlu yma ers bron i 1700 o flynyddoedd. Does dim syndod bod yr ŵyl wedi gadael ei hôl ar enwau lleoedd y wlad.
Mae’r rhan fwyaf o’r enwau Nadoligaidd yn enwau capeli. Roedd yr ymneilltuwyr Cymreig yn tueddu i enwi eu capeli ar ôl llefydd yn y Beibl. Dyna pam bod cymaint o lefydd o’r enw Bethlehem neu Nasareth yng Nghymru, er nad oes ystyr i’r naill air neu’r llall yn y Gymraeg. Yn ogystal â’r capeli, mae rhai o’r rhain yn enwau pentrefi sydd wedi cael eu henwi ar ôl eu capel, fel Bethlehem ym mhlwyf Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn cynnwys 35 lle o’r enw Bethlehem ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn gapeli. Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys cae o’r enw Park Bethlehem ym mhentref Pwll-trap yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n dyddio nôl i 1841. Mae’r cae ar bwys Capel Bethlehem, ac mae’n debyg ei fod yn eiddo i’r capel.
Mae cae arall o’r enw Bethlehem y tu allan i Gaergwrle, Sir y Fflint. Does dim capel o’r un enw yn yr ardal, ond mae’r cae yn ffinio â Bedlam Lane. Mae’n debyg bod Bedlam yn llurguniad o Fethlehem. Dyma enw’r ysbyty cleifion iechyd meddwl enwog yn Llundain. Cafodd ei enwi’n wreiddiol yn Hospital of St Mary of Bethlehem, cyn cael ei gwtogi i Bedlam ar lafar wedyn. Mae’n debyg felly bod enwau’r cae a’r lôn yn perthyn i’w gilydd mewn rhyw ffordd. Mae enghraifft ddiddorol o enw fferm yn Sir Gaernarfon sy’n defnyddio’r gair Bethlehem, sef Glan-Bethlehem ym mhlwyf Llanllechid. Mae’r fferm ar draws y ffordd o Gapel Bethlehem.
Er mai ym Methlehem y cafodd yr Iesu ei eni, roedd ei deulu yn hanu o dref Nasareth. Mae’r lleoliad hwnnw wedi gadael ei farc ar dirlun Cymru hefyd. Mae 17 lle o’r enw Nasareth neu Nazareth. Eto, mae’r mwyafrif ohonyn nhw yn gapeli.
Mae’r gair Nadolig ei hun yn ymddangos o bryd i’w gilydd ymysg enwau lleoedd y wlad, ac mae’n debyg mai Castell Nadolig ym Mhenbryn, Ceredigion yw’r enghraifft enwocaf. Mae Castell Nadolig yn fryngaer sy’n edrych dros Fae Ceredigion. Mae’n debyg ei fod yn ganolfan bwysig yn y canrifoedd olaf cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd. Yn Place Names of Cardiganshire roedd Iwan Wmffre wedi cofnodi mai ‘Kastell yn Dolig’ oedd enw’r lle. Roedd wedi cofnodi hyn mewn llawysgrif yn dyddio o 1571/2. Mae Cofnodion Ystâd Gogerddan yn rhoi’r ffurf bresennol ar yr enw ym 1594.
Mae dau le arall sydd â’r enw ‘Nadolig’, sef fferm Castell-nadolig yn Orllwyn Teifi, Ceredigion, a chae ym Mhentrefoelas, Sir Conwy o’r enw ‘Pant Nadolig’.
Cafodd yr erthygl hon ei haddasu o flogbost a ymddangosodd ar wefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.