Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn bob mis i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n sôn am enwau lleoedd sy’n cyfeirio at y goruwchnaturiol


Mae Calan Gaeaf wedi mynd, ond gan fod mis Tachwedd yn cael ei ystyried yn fis y meirw mewn sawl diwylliant, wnes i feddwl y byddai’n briodol sôn am enwau lleoedd sy’n cynnwys cyfeiriadau at y goruwchnaturiol.

Mae gwrachod yn enghraifft amlwg o hyn. Mae dau dŷ ym Môn o’r enw Bedd y Wrach, un yn Llantrisant, a’r llall yn Llanddyfnan, ynghyd â Maes y Wrach y tu allan i Fodedern. Mae Porth y Wrach yn draeth adnabyddus yn Llŷn, ond mae nifer o gaeau o’r enw Cae’r Wrach yn yr ardal hefyd.

Bedd Dorti

Fel arfer mae’r wrach yn ddienw, ond mae enw un wrach o Landecwyn ym Meirionydd wedi goroesi. Carnedd fach ar bwys Llyn Tecwyn Uchaf yw Bedd Dorti. Y gred yn lleol oedd bod yn rhaid ychwanegu carreg at y garnedd wrth basio, dan ganu “Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi, dŵr ar y tân i olchi’r llestri.” Os dych chi ddim yn canu, bydd Dorti’n eich dilyn a bydd hi’n eich lladd chi o fewn y flwyddyn.

Mae ysbrydion yn ymddangos yn llawer llai aml mewn enwau lleoedd, ond mae ambell un ar hyd a lled y wlad, fel Cwm yr Ysbryd ger Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, neu Ffynnon Ysbrydion ger Pontypwl.

Mae llawer mwy o fwbachod nac o ysbrydion. Ar hyn o bryd mae gennym ni 23 enghraifft o enwau lleoedd sy’n defnyddio’r gair bwbach. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n disgrifio nodweddion topograffyddol, fel Allt y Bwbach, neu Cae Bwbach. Ond cafodd ambell dŷ ei enwi ar eu hôl hefyd, fel Bryn y Bwbach yn Llandecwyn, neu Twll y Bwbach y tu allan i Ddolgellau. Mae dau enw ar bwys ei gilydd i’r dwyrain o Dalybont yng Ngheredigion, sef Craig y Bwbach a Cae Ffynnon Bwbach. Peidiwch ag yfed y dŵr!

Mae 23 enghraifft o enwau lleoedd sy’n defnyddio’r gair bwbach

Mae’r diafol ei hun yn ymddangos o bryd i’w gilydd hefyd. Mae dwy ardal o’r enw Pulpud y Diawl yng Ngwynedd, un uwchben Fairbourne, a’r llall uwchben y ffordd rhwng Corris a Dolgellau, ar ochr Cader Idris. Mae’n bosibl bod Nant Llyn y Gŵr Drwg ger Machynlleth yn cyfeirio ato hefyd.

Gan ddod â’r golofn i ben lle dechreuais, yn sôn am y meirw, rhaid nodi bod y gair hwnnw’n cael ei ddefnyddio mewn enwau lleoedd hefyd. Roedd tŷ o’r enw Clyn-y-meirw ym mhlwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin yn 1900. Erbyn hyn mae’r enw wedi newid i Clyn. Mae’n debyg bod yn well gan y perchnogion anghofio am weddill yr enw!