Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n edrych ar enwau caeau a sut mae’r enwau’n disgrifio sut roedd y cae yn cael ei ddefnyddio…


Mae gan bob cae yng Nghymru enw, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn yr iaith Gymraeg. Y cwestiwn wedyn yw pa mor hen ydy’r enwau yma? Yr ateb yw – mae hynny’n gallu amrywio’n fawr. Mae’r rhan fwyaf o’r enwau ar gaeau yn rhai disgrifiadol, hynny yw maen nhw’n disgrifio’r defnydd sydd ar y cae. Cae lloi yw lle mae’r lloi’n cael eu cadw; Cae gwenith yw lle mae’r gwenith yn cael ei dyfu, ac yn y blaen. Os ydy pwrpas y cae’n aros yr un fath am ganrifoedd, wedyn mae’r enw’n gallu para am ganrifoedd. Ond, wrth gwrs, os ydy’r cae’n cael ei ddefnyddio at bwrpas newydd, yna gall yr enw newid dros nos.

Dol y celyn

Casglwyd tua hanner miliwn o enwau caeau wrth lunio mapiau degwm Cymru yn yr 1840au. Mae’r enwau hynny (a llawer o wybodaeth arall) i’w gweld ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Cafodd y mapiau eu digideiddio fel rhan o brosiect Cynefin. Mae’r enwau hyn wedi dod yn rhan o’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol hefyd. Mae hyn wedi ein galluogi ni i’w cymharu gydag enwau caeau eraill rydym ni wedi eu casglu.

Ym mhentref Graianrhyd yn Sir y Fflint mae fferm o’r enw Maes y Droell. Cafodd enwau caeau’r fferm eu cofnodi ar y mapiau degwm ym 1841. Mae rhestr o’r enwau ym 1628 wedi goroesi hefyd.

Doedd fawr ddim o newid wedi bod dros y ddau gan mlynedd hynny. Enw Cae tan tŷ oedd Kae Tan y Tu. Hirdir oedd Yr Hirdire ym 1628. Roedd Erw garreg wen wedi aros yr un fath. Ychydig iawn o newid oedd wedi bod rhwng Y Kae Rhwngddeuvryn ym 1628 a’r ffurf ddiweddarach Erw rhwng y ddau fryn.

Maes y Droell

Gwelwn ni’r un peth ar ystâd Castell Powis ger y Trallwng. Cofnodwyd enwau caeau’r ystâd ym 1629 ac eto ym 1841 – ac eto doedd fawr o newid. Roedd Borva Vawer wedi aros yn Borfa Fawr hyd 1841, a Maise y Stewards wedi aros yn Maes y Steward.

Roedd Barva Calcott wedi Seisnigo ychydig, gan droi’n Calcots Meadow, ond doedd fawr o newid yn ystyr yr enw.

Y cam nesaf fydd i ni fynd ati i gasglu enwau presennol y caeau hyn, a gweld os yw’r enwau wedi goroesi’r ddau gan mlynedd ddiwethaf.

Wrth i’r gwaith o gasglu hen enwau lleoedd fynd yn ei flaen byddwn ni’n darganfod mwy o enghreifftiau. Efallai byddan ni’n dod o hyd i enwau sydd hyd yn oed yn hŷn ar gyfer y caeau hyn, a chaeau eraill. Byddai’n braf gallu olrhain hanes bob cae yng Nghymru yn mynd nôl pedwar cant o flynyddoedd. Ond efallai mai aros yn freuddwyd fydd hynny – pwy a ŵyr?