Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n edrych ar enwau gwahanol lefydd yn Gymraeg ac yn Saesneg…
Mae gan lawer o lefydd yng Nghymru enwau gwahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dwi ddim yn sôn am yr achosion pan mae’r un enw’n cael ei sillafu’n wahanol yn y ddwy iaith, fel Caerffili a Caerphilly, ond am enwau hollol wahanol, fel Abertawe a Swansea. Dylwn nodi wrth gychwyn bod llawer o enwau ‘Saesneg’ Cymru wedi dod o ieithoedd eraill, fel Norseg ac Eingl-Normaneg, yn hytrach nac o’r Saesneg.
Yn aml iawn mae’r enwau gwahanol yn deillio o’r ffaith bod y ddau grŵp iaith yn edrych ar agweddau gwahanol ar y lle wrth ei enwi. Hynny yw, mae un agwedd yn bwysicach i un grŵp oherwydd eu safle daearyddol, economaidd neu wleidyddol. Cymerwch Abertawe er enghraifft. Mae’r enw Cymraeg yn ddigon hawdd ei ddehongli – aber yr afon Tawe. Does dim cysylltiad gydag elyrch, waeth beth fo’r ffurf Saesneg modern (ymddiheuriadau i’r tîm pêl-droed). Y ffurf hynaf sydd gennyn ni ar Swansea yw Sweynesse, sef Ynys Swein, o c.1153. Beth sydd ar waith yma yw bod y Cymry’n edrych ar y lle fel y man y rheda Tawe i’r môr, tra bod y Llychlynwyr yn gweld yr ynys lle’r oedd Swein yn byw fel y peth pwysicach.
Mae enghraifft debyg yn Sir Benfro, sef Abergwaun. Unwaith eto mae’r enw Cymraeg yn cyfeirio at leoliad y dref ar yr afon, ond tro hyn mae’r enw ‘Saesneg’ (Norseg mewn gwirionedd) yn cyfeirio at y fframiau oedd yn cael eu defnyddio i sychu pysgod, y Fissegard.
Yn achos yr Wyddgrug fodd bynnag, mae’r ddau enw’n cyfeirio at yr un peth. Ystyr gwyddgrug yw bryn mawr, ac mae’r enw’n cyfeirio at un o nodweddion y dref, sef Bryn y Beili. Mae’r enw Saesneg – Mold – wedi datblygu o’r Eingl-Normaneg mont hault, sy’n golygu bryn mawr hefyd. Cafodd castell ei adeiladu ar y bryn gan Robert de Monthault, a gafodd ei enw, o bosib, o’r bryn.
Mae Trefaldwyn yn coffau arglwydd Normanaidd hefyd, sef Baldwyn de Montgomery, a roddodd ei enw cyntaf i ffurfio’r enw Cymraeg, a’i gyfenw i’r Saesneg, Montgomery.
Mae ambell enghraifft lle mae mwy nac un enw Cymraeg ar yr un lle, yn cyfeirio at bethau gwahanol, fel Llandre yng Ngheredigion. Cafodd enw’r pentref ei newid i Landre pan adeiladwyd y rheilffordd, cyn hynny Llanfihangel Genau’r Glyn oedd yr enw, yn cyfeirio at safle’r eglwys o fewn y glyn. Ond bu enw arall ar y pentre’, sef Llanfihangel Castell Gwallter, yn cyfeirio at gastell uwchben yr eglwys, a gafodd ei adeiladu gan yr arglwydd Normanaidd Walter de Ruell.