“Dyn ni’n sefyll ar ysgwyddau cewri”.

Yn y byd gwyddoniaeth ‘dyn ni’n clywed hyn yn aml, ac mae’n wir i mi mewn sawl ffordd – yn enwedig ym maes ffotograffiaeth.

Ces i fy nghamera cyntaf yn 1978. Ro’n i’n ddeuddeg oed, a Polaroid SX-70 OneStep oedd e. Roeddwn i wedi fy swyno! Am fisoedd, wnes i wario rhan fwyaf o’m harian poced ar ffilm. Oherwydd “proses gyflym” Polaroid, nid oedd angen talu (neu aros) i ddatblygu’r ffilm – dim ond tynnu lluniau ac aros am bum munud. Felly wnes i dynnu llwyth o luniau… rhywbeth sy’n parhau hyd heddiw!

Goleuni yn dod i lawr y camera

Hanes y camera

Cafodd y dechnoleg Polaroid ei datblygu gan sylfaenydd y cwmni, Edwin Land. Dechreuodd werthu’r camerâu gwib Polaroid cyntaf yn 1948. Datblygodd Land ei dechnoleg gan greu camerâu oedd yn edrych fel rhai o’r 1830au – gan ddyfeiswyr fel Henry Fox Talbot, Joseph Nicéphore Niépce, Louis-Jacques-Mandé Daguerre, Alphonse Giroux, ac eraill.

Ond mae hanes y camera yn mynd ymhellach yn ôl na hynny.

Cafodd y camerâu cyntaf eu hadeiladu ar ffurf “camera obscura” – sy’n golygu “ystafell dywyll” yn Lladin – trwy roi twll bach mewn wal i greu delwedd ar y wal gyferbyn. Roedd y camera obscura (neu “camera twll pin”) yn boblogaidd gyda gwyddonwyr ac artistiaid yn y 15fed hyd at y 17eg ganrif. Serch hynny, mae’r camera obscura’n dyddio’n ôl i’r 10fed ganrif a gwaith Ḥasan Ibn al-Haytham yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Sefyll ar ysgwyddau cewri, yn wir.

Y camera obscura yn Aberystwyth

Camera obscura mwyaf y byd

Yn ffodus, mae diddordeb yn y camera obscura wedi parhau hyd heddiw, ac mae llawer ledled y byd. Mae enghreifftiau modern yn cynnwys camerâu obscura yn San Francisco, Los Angeles, Caeredin, Bryste, Greenwich, a’r un mwyaf yn y byd ar ben Craig-glais yn Aberystwyth.

Mewn gwirionedd, mae hi wedi bod yn ddau neu dri chamera obscura yn Aberystwyth. Cafodd yr un cyntaf ei adeiladu yn y 1890au ar ben arall y traeth, ger y castell. Yn dibynnu ar ba fersiwn yr hanes dych chi’n ei gredu, yn y 1920au (a) cafodd yr adeilad gwreiddiol ei symud i gopa Craig-glais, neu (b) cafodd camera obscura newydd ei adeiladu ar ben y bryn. Un ffordd neu’r llall, cafodd yr adeilad a’r camera obscura eu dinistrio gan dywydd eithafol yn y 1920au.

Yn yr ystafell arsylwi

Ond nid dyna oedd diwedd y stori.

Cafodd adeilad newydd ei godi ar ben Craig-glais yn 1985 i greu camera obscura newydd – yr un mwyaf yn y byd. Mae’r camera newydd yn defnyddio dyluniad dyfeisgar, gan gynnwys:

  • Drych symudol sy’n gallu sganio trwy bron i 360 gradd;
  • Twll mawr ar ben yr adeilad i gael llawer o oleuni;
  • Lens mawr (14 modfedd) i ffocysu’r goleuni, a
  • Sgrîn gron fawr i ddangos y ddelwedd.

Cafodd y lens ei ddylunio a’i gynhyrchu yng Nghymru gan Pilkington PE yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Mae’n gallu delweddu 100 milltir i fyny ac i lawr yr arfordir, dros 1000 milltir sgwâr o dirlun a môr, a 26 o gopaon mynyddoedd gan gynnwys Yr Wyddfa.

Y tu mewn i’r camera obscura

Treuliais i ddiwrnod yn Aberystwyth yn ystod fy ymweliad a Chymru’r haf yma. Es i fyny Craig-glais ar Reilffordd y Clogwyn, a phan gyrhaeddais i’r copa roedd y gwynt yn gryf a’r golygfeydd yn anhygoel. Sefais yn y gwynt am ddeg munud i losgi’r ddelwedd yn fy meddwl cyn mynd i mewn i adeilad y camera obscura.

Ces i amser anhygoel y tu mewn i’r camera. Ar ôl i fi ddiffodd y goleuadau yn yr ystafell arsylwi, ro’n i’n gallu defnyddio ffon reoli fach ger y sgrin i symud y drych a sganio’r ddelwedd o amgylch ardal Aberystwyth.

Sut oedd y delweddau? Mewn gair: eithriadol. Hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog. Roedd popeth yn ddisglair ac yn glir. Ro’n i ar fy mhen fy hun y tu mewn i’r camera am fwy na hanner awr, felly ces i ddigon o amser i edrych ar Aberystwyth drwy’r lens. Roedd y profiad mor unigryw, mae’n anodd ei ddisgrifio.

Felly, bydd rhaid i chi fynd i Aberystwyth i weld y camera obscura eich hun!

Byddwch chi’n sefyll ar ysgwyddau cewri.