Mae’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi cael eu cyhoeddi. Roedd 45 wedi trio ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf y tro yma. Dyma’r nifer uchaf erioed i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Y pedwar ydy Joshua Morgan, Antwn Owen-Hicks, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Roedd dysgwyr o Gymru a thu hwnt wedi cael eu henwebu ar gyfer y gystadleuaeth eleni.
Cafodd y rownd gynderfynol ei chynnal ym mis Mai. Bydd y pedwar yn y rownd derfynol yn dod at ei gilydd ar Faes yr Eisteddfod. Byddan nhw’n sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn, ddydd Mercher 7 Awst.
Dyma’r pedwar…
Joshua Morgan
Mae Joshua Morgan yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dod yn ôl i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd o wedi byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd ac wedi astudio isiXhosa – un o ieithoedd swyddogol De Affrica.
Aeth ati i ddysgu Cymraeg a chreu’r llyfr 31 Ways to Hoffi Coffi ar gyfer teulu a ffrindiau. Roedd yn boblogaidd efo dysgwyr hefyd.
Dechreuodd Josh greu darluniadau o’i daith yn dysgu Cymraeg. Erbyn hyn mae mwy na 10,000 o ddysgwyr yn defnyddio darluniadau a gwersi ‘Sketchy Welsh’.
Mae’n gweithio fel athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful. Mae wedi helpu’i ddosbarth i greu llyfr dysgu Cymraeg o’r enw Lles. Mae’n creu fideo bob wythnos gyda’i ddosbarth er mwyn dysgu Cymraeg i’r ysgol.
Antwn Owen-Hicks
Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg bob dydd yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi bod yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Cafodd ei fagu mewn cartref di-gymraeg – ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.
Dechreuodd gymryd diddordeb yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain a dechrau dysgu Cymraeg pan ddaeth yn ôl i Gymru. Mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg.
Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy. Ei ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.
Mae’n un o sylfaenwyr y band gwerin Cymraeg, Carreg Lafar. Mae’r band wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a gogledd America.
Alanna Pennar-Macfarlane
Mae Alanna Pennar-Macfarlane yn dod o’r Alban yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi dilyn un wers Gymraeg o leiaf bob dydd ers bron i chwe blynedd a hanner ar ap Duolingo.
Mae ganddi ddyslecsia ond dydy hynny ddim wedi ei rhwystro rhag dysgu Cymraeg.
Mae Alanna wedi ysbrydoli’i theulu i ddysgu Cymraeg. Mae ei chwaer yng nghyfraith a’i mam yn dysgu rŵan.
Mae hi hefyd wedi datblygu adnoddau a fyddai wedi’i helpu hi i ddysgu Cymraeg. Lansiodd ei Dyddiadur i Ddysgwyr ym mis Tachwedd 2023. Mae wedi gwerthu dros 200 o gopïau i ddysgwyr ar draws y byd.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr nodiadau i helpu gyda rheolau treiglo, a dyddiadur academaidd wedi’i anelu at siaradwyr newydd.
Elinor Staniforth
Dechreuodd Elinor Staniforth ddysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn, mae hi’n dysgu Cymraeg i bobl eraill. Cafodd ei magu mewn cartref di-gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd wedi astudio celfyddyd gain yn Rhydychen cyn dod yn ôl i Gymru.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn Covid, er mwyn cyfarfod pobl a’i helpu i gael swydd yn y celfyddydau.
Mae dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd ac wedi rhoi llawer o hyder iddi. Erbyn hyn mae’n diwtor Cymraeg i oedolion ac yn ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
Mae’n gobeithio cyfuno ei diddordeb mewn dysgu Cymraeg a chelf yn y dyfodol. Mae hi eisiau cynnal cyrsiau celf i ddysgwyr a siaradwyr hyderus.
Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Bydd yr enillydd yn cael Tlws Dysgwr y Flwyddyn, gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, sy’n rhodd gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.
Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn cael tlws, sy’n rhodd gan Menna Davies, a £100 yr un, gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.