Mae Rachel Bedwin yn 27 oed, ac mae hi’n dod o Lundain yn wreiddiol.
Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg un haf pan oedd hi ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Roedd ei ffrind eisiau dysgu Cymraeg oherwydd roedd hi’n mynd ar wyliau i Gymru yn aml, ac roedd Rachel wedi dysgu Cymraeg gyda hi.
Ar ôl dilyn cwrs Duolingo, doedd hi ddim yn siŵr sut i ddefnyddio’r Gymraeg. Doedd hi ddim eisiau symud i Gymru.
Ond roedd Rachel wedi mynd i weithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn ger Beddgelert.
“Ro’n i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi siarad Cymraeg os dw i am weithio yn yr ardal,” meddai.
“Felly, gweithio’n galed a dysgu mwy o Gymraeg, a gallwn i ddod yn ôl i’r ardal i weithio yn y dyfodol.”
Y cyfnod clo
“Daeth y cyfnod clo yn fuan wedyn,” meddai Rachel.
“Ro’n i’n gaeth mewn tŷ yng nghanol Llundain, yn hiraethu am fynyddoedd Eryri.
“Gwelais i swydd gyda thîm llwybrau Craflwyn yn fuan ar ôl hynny, a llwyddo i gael y swydd!
“Roedd bron pawb yn y tîm yn siarad Cymraeg. Ro’n i’n deall y rhan fwyaf o bethau.
“Ond ar ôl ychydig o fisoedd, gan nad oedd neb yn siarad Saesneg efo fi, mi wnes i allu ateb a chymryd rhan mewn sgwrs – dim ond angen cyflymu o’n i.
“Dyma’r ffordd orau i ddysgu yn fy marn i, gan nad oedd dim opsiwn troi i’r Saesneg!”
Côr Eifionydd
Ar ôl symud i Gymru, cafodd Rachel le i aros yn Nhremadog.
Ymunodd hi â Chôr Eifionydd.
“Mae mwy nag un person wedi dweud fod gen i acen naturiol pan dw i’n siarad Cymraeg.
“Dw i’n credu bod hynny diolch i’r côr.
“Ro’n i’n eistedd yng nghanol pobol leol, yn gwrando ar sut maen nhw’n canu, ac yn ynganu geiriau, fel bod fy llais yn asio pan o’n i’n canu.
“Dw i hefyd yn meddwl fod cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn llawer o help i mi ynganu tra’n dysgu Cymraeg, i glywed llif yr iaith.
“Mae gwrando ar gerddoriaeth a chanu yn cynnig gymaint o gamau yn y daith o ddysgu iaith.”
Swydd newydd
Mae Rachel yn byw yng Nghymru ers bron i ddwy flynedd.
Mae hi’n siarad Cymraeg bob dydd yn y gwaith a gyda ffrindiau.
Mae hi wedi cael swydd newydd gydag RSPB Cymru, fel Swyddog Polisi Natur Cenedlaethol.
“Mae’n bwysig mynd allan i’r gymuned a dechrau siarad yr iaith,” meddai.
“Mae oedolion yn poeni am wneud camgymeriadau.
“Ond rhaid cofio – prif bwynt iaith ydy cyfathrebu.
“Does dim ots os oes camgymeriadau ar y dechrau – mi ddaw hynny gydag amser.”