Mae Graihagh Pelissier yn dod o Ynys Manaw yn wreiddiol. Rŵan mae hi’n byw yn yr Wyddgrug. Roedd hi eisiau dechrau dysgu Cymraeg er mwyn cefnogi ei phlant yn yr ysgol.
Ar Ddydd Miwsig Cymru heddiw (dydd Gwener, 9 Chwefror) mae Graihagh yn dweud sut mae cerddoriaeth Gymraeg wedi chwarae rôl bwysig yn ei thaith i ddysgu’r iaith.
Roedd Graihagh wedi gweld y cerddor Daniel Lloyd am y tro cyntaf mewn panto yn Theatr Clwyd. Roedd yn meddwl fod ei lais yn wych.
Ar ôl y panto, fe wnaeth hi ddarganfod ei fod mewn band Cymraeg o’r enw Daniel Lloyd a Mr Pinc. Dechreuodd wrando ar ei gerddoriaeth, ac wedyn, bandiau eraill Cymraeg. Gwnaeth Graihagh ddarganfod byd a diwylliant newydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma bum hoff gân Gymraeg Graihagh:
Daniel Lloyd – Y Cyfan Eto
Roedd clywed Daniel yn canu yn y panto ychydig flynyddoedd yn ôl wedi fy ysbrydoli i wrando ar fiwsig Cymraeg, a thrwy hynny barhau i ddysgu Cymraeg. Felly mi wnes i syrthio mewn cariad efo’i gerddoriaeth. Mae’n anodd dewis dim ond un o’i ganeuon, ond dyma’r ffefryn.
Lily Beau – Y Bobl
Roedden ni’n dysgu am chwedl Cantre’r Gwaelod yn y dosbarth Dysgu Cymraeg y llynedd, ac yn fuan wedyn, clywais i’r gân ar y radio. Daeth y gân â’r stori’n fyw.
Candelas – Cysgod Mis Hydref
Dw i’n hoffi cân roc, a dyma un o fy ffefrynnau. Clywais y gân pan gafodd ei chwarae am y tro cyntaf ar sioe Tudur Owen cwpl o flynyddoedd yn ôl a ro’n i’n meddwl ei bod yn anhygoel.
Ystyr – Tyrd â dy Gariad
Mae hon yn gân mor brydferth – y dôn, y geiriau, yr ystyr! Dw i’n teimlo’n gynnes tu mewn pan fydda i’n ei chlywed.
Breichiau Hir – Yn Dawel Bach
Mae gan y gân hon alaw mor brydferth a theimlad cerddorfaol. Dw i’n caru caneuon sy’n dechrau’n araf ac yn adeiladu mewn dwyster. Cân berffaith!