Dydd Miwsig Cymru hapus i chi oll, ddarllenwyr Lingo360! Un o’m hoff ddiwrnodau o’r flwyddyn, a’r diwrnod prysuraf i”m chwaraewr recordiau, mae’n debyg!
Mae darganfod bandiau ac artistiaid newydd wrth ddysgu Cymraeg wedi mynd law yn llaw dros fy mlynyddoedd o ddysgu’r iaith. Ac mae Dydd Miwsig Cymru wedi chwarae rôl yn hynny. Dw i, fel gymaint o bobol sydd wedi, neu’n dysgu Cymraeg, wedi teimlo’n agosach at yr iaith a diwylliant y wlad trwy gerddoriaeth. Dros y blynyddoedd, dwi wedi casglu caneuon, albymau a recordiau wrth gasglu geiriau, brawddegau a dealltwriaeth o’r iaith. Yn syml, mae miwsig wedi bod yn hollol hanfodol!
Roedd clywed fy hoff artistiaid a bandiau am y tro cyntaf – fel Datblygu, Gwenno, Gruff Rhys a Geraint Jarman, i enwi ambell un – hefyd yn cynrychioli trobwyntiau ar fy nhaith dysgu. Efo pob un ohonyn nhw, ro’n i’n teimlo’n agosach at yr iaith.
Dyna pam mae dal yn anodd i mi goelio rhai o’r profiadau anhygoel dwi wedi cael trwy fod yn rhan o’r rhaglen Y Sîn lle gesh i gyfle i siarad efo gwahanol artistiaid, gan gynnwys cantores ac arwres gerddorol i mi sef Ani Saunders, neu Ani Glass, yn ystod yr ail bennod.
Ro’n i’n trafod sut mae ffasiwn yn cydblethu â’i cherddoriaeth a’i gwaith.
Cyn iddi gyrraedd ar gyfer y cyfweliad, wnes i ddweud wrth Joe Healy, fy nghyd-gyflwynydd ar y rhaglen, sut ro’n i am drio fy ngorau i beidio dod drosodd yn rhy gyffrous! Ond ro’n i methu cuddio’r ffaith fy mod i’n ffan fawr o gerddoriaeth Ani a’r hapusrwydd o gael y cyfle i drafod ei gwaith efo hi.
Never meet your idols medda’ nhw, ond dw i’n lwcus i ddweud nad yw hynny’n wir yn fy mhrofiad i. Roedd Ani’n hollol hyfryd, jyst fel ei cherddoriaeth hi. Roedd siarad efo hi’n uchafbwynt mawr o fod yn rhan o Y Sîn.
Mi fyswn i wrth fy modd yn mynd yn ôl mewn amser i’r cyfnod dechreuais i ddysgu Cymraeg er mwyn dweud wrth fy hun sut y byswn i’n cael y cyfle i sgwrsio efo un o fy hoff artistiaid am eu gwaith – dw i wir ddim yn meddwl y byddwn i wedi ei goelio!
Mae’n rhoi rheswm hyfryd i mi ymfalchïo yn fy nhaith ddysgu. A hefyd yr ysbrydoliaeth a gobaith i annog eraill i ddarganfod nid yr iaith yn unig ond y byd o gerddoriaeth a llenyddiaeth sydd ar gael i’n helpu ni ar hyd y ffordd.
A sôn am lenyddiaeth (be arall ydach chi’n disgwyl genna’i – mae’n rhaid cynnwys o leiaf brawddeg fach am lyfrau, hyd yn oed ar Ddydd Miwsig Cymru!), hoffwn i rannu llinell dwi’n ei charu o’r llyfr Mori gan Ffion Dafis i gloi: “Teimlai mai hi oedd pia’r nos pan y clywai Adwaith a Gwenno ac Ani yn canu eu geiriau iddi.”