Lingo Newydd: Bargen Dydd Gŵyl Dewi

25% i ffwrdd tanysgrifiad y cylchgrawn am heddiw yn unig

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae cylchgrawn lingo newydd yn cynnig bargen i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Am heddiw (Dydd Gwener, 1 Mawrth) yn unig, mae 25% i ffwrdd pris lingo newydd i unrhyw un sy’n tanysgrifio o’r newydd.

Os ydych chi eisiau help i ddysgu Cymraeg a dysgu am fywyd yng Nghymru mewn ffordd hwyliog, dyma’r cylchgrawn i chi.

Mae’r cylchgrawn – sydd ar gael mewn print neu ar-lein – yn llawn erthyglau difyr am Gymru. O natur i lyfrau, o hanes i arddio, mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Mae ‘Rhosddu’ yn dweud mewn fforwm dysgu Cymraeg ar Reddit: “This is a well-structured magazine that contains articles pitched at all the levels from Mynediad to Uwch, with colour coding to show which level an article is at. Recommended.”

Yn ogystal ag erthyglau addas i’ch lefel dysgu, mae’n cynnig geirfa a thraciau sain er mwyn i chi allu clywed yr erthyglau.

Mae 25% i ffwrdd y pris arferol heddiw am danysgrifiad blwyddyn, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Oes diwrnod gwell i ddechrau darllen lingo newydd?

Geiriau

cylchgrawn
magazine
cynnig
offer
dathlu
celebrate
Dydd Gŵyl Dewi
Saint David's Day
unig
only
tanysgrifio
subscribe
hwyliog,
fun
erthyglau
articles
difyr
entertaining
llyfrau
books
hanes
history
garddio
gardening
at ddant pawb
for everyone/to everyone's taste
addas
suitable
geirfa
vocabulary
traciau sain
sound tracks
clywed
hear
pris arferol
usual price
gwell
better

Cylchlythyr