Mae cylchgrawn lingo newydd yn cynnig bargen i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Am heddiw (Dydd Gwener, 1 Mawrth) yn unig, mae 25% i ffwrdd pris lingo newydd i unrhyw un sy’n tanysgrifio o’r newydd.
Os ydych chi eisiau help i ddysgu Cymraeg a dysgu am fywyd yng Nghymru mewn ffordd hwyliog, dyma’r cylchgrawn i chi.
Mae’r cylchgrawn – sydd ar gael mewn print neu ar-lein – yn llawn erthyglau difyr am Gymru. O natur i lyfrau, o hanes i arddio, mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Mae ‘Rhosddu’ yn dweud mewn fforwm dysgu Cymraeg ar Reddit: “This is a well-structured magazine that contains articles pitched at all the levels from Mynediad to Uwch, with colour coding to show which level an article is at. Recommended.”
Yn ogystal ag erthyglau addas i’ch lefel dysgu, mae’n cynnig geirfa a thraciau sain er mwyn i chi allu clywed yr erthyglau.
Mae 25% i ffwrdd y pris arferol heddiw am danysgrifiad blwyddyn, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Oes diwrnod gwell i ddechrau darllen lingo newydd?