Mae Stephen Rule, neu’r ‘Doctor Cymraeg’ ar X (Twitter), yn dod o bentref Coed-llai ar bwys yr Wyddgrug yn wreiddiol.
Mae’n athro ail iaith yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, ac yn helpu pobol i ddysgu Cymraeg ar-lein.
Roedd e wedi creu tudalen X (Twitter) yn ystod y cyfnod clo ym mis Awst 2020, ac mae 14,000 o bobol yn ei ddilyn. Mae 75,000 o ddilynwyr ganddo fe ar Instagram hefyd.
Mae’n ysgrifennu llyfrau am yr iaith, yn gymedrolwr ar gyfer y cwrs Duolingo Cymraeg, ac erbyn heddiw yn magu ei fab yn siarad Cymraeg.
Cafodd Stephen Rule ei fagu yn uniaith Saesneg, ond roedd e’n mwynhau Cymraeg a dyna pam roedd e wedi dechrau dysgu’r iaith.
Dyma Stephen i ddweud pam roedd e wedi creu’r ‘Doctor Cymraeg’…
Pwy oedd wedi eich ysbrydoli i barhau i ddysgu Cymraeg?
“Roeddwn i’n mwynhau Cymraeg a phob siawns i ryngweithio gyda hi. Ond dw i’n eithaf siŵr bod clywed ambell i beth yn Gymraeg gan Taid wedi gadael ei farc. Felly, doedd yr iaith ddim yn hollol estron i fi.”
Beth oedd y nod wrth greu’r ‘Doctor Cymraeg’? Oeddech chi’n disgwyl y fath ymateb?
“Doeddwn i ddim yn disgwyl sut mae pethau wedi troi allan erbyn hyn o gwbl. Dw i wastad wedi caru’r iaith, sut oedd hi’n gwneud i fi deimlo, sut mae hi wedi cysylltu fi â phobol newydd a diwylliannau newydd, pa mor gryf mae pobol yn teimlo drosti – jest popeth amdani!
“Ond fel rhywun sydd wedi ennill gradd yn y Gymraeg, wedi dysgu’r iaith i blant 11 i 18 oed, wedi dysgu’r iaith i oedolion, wedi gwneud ffrindiau gyda phobol sy’n rhugl a nawr yn siarad yr iaith adref efo fy ngwraig a fy mab, roeddwn i’n meddwl pam nad oeddwn i yn medru bod yn rhywun i helpu’r to newydd a’r rhai sydd ar eu taith iaith?”
Ydy hiwmor yn bwysig wrth ddysgu Cymraeg?
“Yn bendant, mae hiwmor yn bwysig. Dw i’n cofio mentro i gerddoriaeth Gymraeg pan oeddwn i dal yn gwneud Lefel A (ail iaith) yn yr ysgol uwchradd, a Gwibdaith Hen Fran oedd prif fand Cymru ar y pryd.
“Roedden nhw’n defnyddio’r iaith mewn ffordd mor ddoniol, ac roeddwn i eisiau gwrando a dysgu’r geiriau. Mae rhaglenni fel Hansh a Dim Byd wedi dal fy sylw i; rhaglenni sy’n codi gwên i bawb.”
Beth yw’r ffordd orau o ddysgu’r iaith?
“Mae pawb yn dysgu ac yn delio efo pethau mewn ffyrdd gwahanol. Dw i bob amser yn awgrymu i ddysgwyr drio unrhyw beth a phopeth. Mae’n cymryd amser, blynyddoedd gan amlaf, ac mae hwnna’n rywbeth mae dysgwyr yn gorfod ei dderbyn a’i barchu.
“Siaradwch efo’ch hun a dychmygwch fod rhywun o Radio Cymru yn rhoi cyfweliad i chi, a gofyn i chi pam ddaru chi ddysgu’r iaith. Pam ddim? Jest gwnewch be’ ydech chi’n gallu. Jest peidiwch â siarad efo’ch hun ar y stryd…!”
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?
“Peidiwch â bod ofn cerdded i ffwrdd a gadael y dysgu am ychydig. Taith ydi hi, a does dim yn digwydd mewn diwrnod. Byddwch yn barod i fod yn nerfus, i boeni, i deimlo embaras a rhwystredigaeth. Mae o i gyd yn mynd i ddigwydd i chi!”
Oes cynlluniau cyffrous gyda chi i’r dyfodol?
“Mae pobol yn mwynhau’r pethau dw i’n eu creu, felly fe wna i barhau! Dw i’n cael gwahoddiadau i gydweithio efo pobol wahanol trwy’r amser, ac yn cael cyfleoedd i siarad efo pobol, i fynd ar y teledu, ar y radio, i gyflwyno pethau a helpu pobol.
“Rhannu’r iaith wych sydd gennym ni ydi’r nod bob amser.”
- Bydd sesiwn Why learn the lingo (and fun tips on using your Welsh in the wild!) am 5 o’r gloch ddydd Iau, Ebrill 18 yn Llyfrgell Wrecsam. Bydd y sgwrs yn Saesneg yn bennaf (gyda thipyn o Gymraeg wedi ei daflu i mewn!)