Mae Dr James January-McCann yn Swyddog Enwau Lleoedd gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn fisol i Lingo360 lle mae’n siarad am hanes enwau. Y tro yma mae’n edrych ar ystyr y gair ‘meifod’…
Daw Dewin y Mai heb ei weled fin nos
Rydyn ni gyd yn gyfarwydd â hafod fel enw lle. Mae’n atgof o hen arfer pobl wledig i fynd â’u hanifeiliaid i’r ucheldir i dreulio’r haf yn pori’r glaswellt yno. Ond efallai nad ydyn ni’n dod ar draws meifod mor aml.
Mae’r gair yn gyfuniad o Mai a bod, yn golygu trigfan, ac felly’n golygu rhyw le y byddai pobl yn byw yn ystod mis Mai. Mae’r enw ar gael o dan y ffurf Seisnigedig Vivod ychydig y tu allan i Langollen. Cafodd yr enw ei gofnodi fel Myfod ym 1709, Y Veivod ym 1699, ac mae’n ymddangos ym marddoniaeth ganoloesol fel Meifod, ym 1339. Bu’n enw ar y drefgordd hanesyddol yn ogystal ag ar y tŷ.
Mae dwy fferm uwchben pentref Dyffryn Ardudwy ym Meirionydd, sef Meifod-Isa a Meifod Uchaf, yn defnyddio’r gair.
Mae caeau o’r enw Wern Meifod yn uwch i fyny’r bryn eto. Ceir hefyd Plâs-meifod y tu allan i Henllan, Sir Ddinbych, ac ym 1900 roedd Meifod Quarry wrth ei ochr.
Ar lannau Afon Elwy ger Llansansiôr mae nifer o enwau meifod. Ym 1841 roedd tai o’r enwau Meifod House a Meifod Bank yn sefyll ger Ffridd Meifod, a Meifod Mill ger yr afon. Erbyn 1900 roedd Meifod House wedi troi’n Meifod-bâch, a Nant Meifod (Nant cynt) wedi ymddangos. Erbyn hyn mae Meifod House yn adfail, ac mae enw Meifod Bank wedi newid i Plas Meifod.
Mae nant o’r enw Nant Meifod ym mhlwyf Llanelian yn Rhôs, sy’n llifo gerllaw fferm Meifod. Mae tŷ arall o’r un enw ym mhlwyf Llanrhaeadr yng Nghinmeirch.
Ond beth am meifod enwocaf Cymru, sef pentref Meifod ym Maldwyn, lle fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal eleni? Mae’r lle wedi cadw’r un enw ers o leiaf y ddeuddegfed ganrif. Mae’r cofnod cynharaf sydd gennyn ni yn cyfeirio at eglwys y plwyf, fel eglwys Veir y Meiuot ac eglwys Tysiliav yn Meivot, rhyw bryd rhwng 1150-60. Mae’r eglwys wedi’i chysegru i’n Harglwyddes a Sant Tysilio.
Fodd bynnag, mae’n debyg nad meifod yn yr un ystyr â’r meifotau eraill sydd yma. Awgryma Richard Morgan yn A Study of Montgomeryshire Place Names mai mei(dd) yn golygu canol sydd yma, oherwydd safle’r pentref yng nghanol tiroedd isel Dyffryn Meifod, ac mae’n anodd dadlau gyda fo!