Ydych chi wedi bod i Dyddewi yn Sir Benfro? Dyma hanes Dewi Sant yno.
Dywedodd angel wrth Dewi i fynd i Glyn Rhosyn yn Sir Benfro i adeiladu mynachdy. Aeth o efo ei ffrindiau, Aidan, Eliud ac Ismael i’r lle. Adeiladon nhw dân. Cododd mwg o’r tân ac aeth y mwg o amgylch y lle.
Yn anffodus roedd Gwyddel cas o’r enw Boia yn byw yn ymyl. Gwelodd Boia y mwg. Doedd o ddim yn hapus.
Penderfynodd Boia fynd â’i filwyr i ladd Dewi a’i ffrindiau. Yn anffodus aeth y milwyr yn sâl ar y ffordd. Doedd neb yn gallu symud. Roedd pawb yn wan. Doedden nhw ddim yn gallu ymladd, felly dechreuon nhw weiddi ar Dewi. Ond doedd Dewi ddim yn symud. Felly aeth Boia a’i filwyr adre.
Pan ddaethon nhw adre dywedodd Mrs Boia bod y gwartheg i gyd wedi marw. Felly aethon nhw yn ôl at Dewi i ymddiheuro. Yn sydyn roedd y gwartheg yn fyw!
Roedd Boia yn ddigon bodlon i roi llonydd i Dewi. Ond roedd Mrs Boia yn grac iawn. Penderfynodd hi ddial ar Dewi.
Mrs Boia a’r merched
Fel mynachod roedd Dewi a’i ddynion yn byw bywyd tlawd iawn. Doedden nhw ddim yn bwyta cig. Dim ond dŵr oedden nhw’n yfed. Gweithion nhw yn y caeau trwy’r dydd. Ac, wrth gwrs, doedden nhw ddim yn cadw cwmni gyda merched!
Un diwrnod daeth Mrs Boia i’r afon wrth ochr y cae lle’r oedd y mynachod yn gweithio. Daeth merched hardd gyda hi. Galwon nhw ar y mynachod:
“Helo, fechgyn! Mae gynnon ni bicnic. Ydych chi eisiau dod i gael tamaid?”
Ond dal i weithio wnaeth y mynachod. Galwodd Mrs Boia eto:
“Helo, hogiau! Rydyn ni’n yfed gwin coch blasus. Dewch i orffwys. Dewch i gael diferyn o’r gwin coch hyfryd.”
Ond dal i weithio wnaeth y mynachod. Dywedodd Mrs Boia wrth y merched i dynnu eu dillad a mynd i mewn i’r afon. Galwodd hi eto ar y mynachod:
“Mae’n ddiwrnod poeth. Rydych chi’n gweithio’n galed. Rydych chi’n gwisgo dillad cynnes. Dewch i mewn i’r dŵr i gael oeri. Mae hi’n braf iawn.”
Chwysodd y mynachod yn ofnadwy, ond aethon nhw ddim at yr afon. Yn y diwedd aeth Mrs Boia adref mewn tymer. Roedd hi’n grac iawn. Ymhen tipyn o amser torrodd ben ei merch i ffwrdd. Aeth hi’n wallgo ar ôl hynny a rhedeg i ffwrdd. Cafodd Boia ei ladd yn fuan wedyn.
O’r diwedd roedd Dewi a’i ffrindiau yn gallu byw mewn heddwch yng Nglyn Rhosyn, neu Dyddewi, fel rydyn ni’n nabod y lle heddiw.