Dych chi wedi bod i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yr wythnos hon? Efallai dych chi wedi treulio dipyn o amser ym Maes D ac wedi mwynhau’r digwyddiadau.
Beth am ddod draw i Stondin Nant Gwrtheyrn ym Maes D am 12pm heddiw (dydd Gwener, 9 Awst) i glywed sgwrs gyda’r ‘Doctor Cymraeg’ a Francesca Sciarrillo? Bydd y ddau yn siarad am eu taith i ddysgu Cymraeg.
Mae Stephen Rule yn cael ei adnabod fel ‘Doctor Cymraeg’ ac mae ganddo 58,000 o ddilynwyr ar Instagram.
Mae Francesca Sciarrillo yn ysgrifennu colofn i gylchgrawn Lingo Newydd a gwefan Lingo360 ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru.
Roedd hi hefyd yn un o dri awdur oedd wedi ennill cystadleuaeth i ysgrifennu stori fer ar gyfer llyfr o straeon byrion gan wasg Sebra. Cafodd y llyfr ei lansio yn yr Eisteddfod yr wythnos hon.
Bydd y ‘Doctor Cymraeg’ a Francesca yn dod at a’i gilydd i siarad am bopeth am yr iaith.
Mae Stephen a Francesca yn siarad mwy nag un iaith, ac mae’r ddau yn ddysgwyr Cymraeg sydd wedi dod yn rhugl. Mae gan y ddau stori ddiddorol i’w dweud am yr effaith mae ieithoedd – a’r Gymraeg yn arbennig – wedi’i chael ar eu bywydau.
Byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Lingo Newydd, i ysbrydoli pawb i ddechrau dysgu’r iaith.
Felly dewch draw i Stondin Nant Gwrtheyrn ym Maes D am 12pm heddiw. Welwn ni chi yno!