Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre, Sir Gaerfyrddin yn dathlu Mis Gwlân Cenedlaethol y mis yma. Maen nhw wedi trefnu digwyddiad ar 26 Hydref sy’n cynnwys 18 o fusnesau bach annibynnol. Bydd llawer o gynnyrch ar gael sydd wedi’u creu gyda gwlân neu sydd â chysylltiadau â’r diwydiant gwlân. Mae’r digwyddiad wedi cael ei drefnu mewn partneriaeth â Cow & Ghost Vintage. Yma mae John Rees o Cow & Ghost Vintage a cholofnydd Lingo Newydd, yn dweud mwy am y digwyddiad…

Gwlân

John, beth ydy Mis Gwlân Cenedlaethol a pam mae’n cael ei gynnal?

Mae Mis Gwlân Cenedlaethol yn cael ei ddathlu rhwng y 3 a 30 Hydref. Yn wreiddiol, dechreuodd fel Wythnos Wlân ond mae wedi datblygu gydag amser. Mae’n digwydd ym mis Hydref bob blwyddyn. Mae’r digwyddiad yn hyrwyddo ac yn addysgu am fanteision gwlân, a pham ei fod yn gynaliadwy. Cafodd yr Ymgyrch Wlân ei lansio yn 2010. Mae’n ddigwyddiad byd-eang. Y Brenin Charles III oedd wedi dechrau’r ymgyrch. Roedd e eisiau addysgu pobl am fanteision gwlân ac i gefnogi’r diwydiant gwlân. Mae’r ymgyrch yn ymgysylltu gyda phobl trwy ffasiwn gyffroes, cynlluniau dylunio mewnol, a gweithgareddau crefft yn ystod mis Hydref.

Pam mae’n bwysig dathlu gwlân? 

Mae’n bwysig i godi ymwybyddiaeth o wlân fel ffibr unigryw, naturiol, adnewyddadwy a bioddiraddadwy. Mae gwlân yn bioddiraddio yn naturiol mewn pridd ac yn ychwanegu maetholion i’r ddaear. Mae hefyd yn bioddiraddio yn y môr ac yn y dŵr heb adael effaith ar y blaned. Mae dewis gwlân yn helpu i ddiogelu’r byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Clustogau

Beth fydd yn digwydd yn y Ffair Wlân yn Amgueddfa Wlân Cymru? 

Mae’r ffair wlân yn syniad newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y cwmni Cow & Ghot Vintage ac Amgueddfa Wlân Cymru. Mae’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd am sawl mlynedd yn cynnal ffeiriau hen bethau a chrefftau sydd wedi cael eu gwneud â llaw. Mae’n bartneriaeth sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Wrth sgwrsio, daeth y syniad o gael ffair sy’n dathlu gwlân gyda nwyddau hen a newydd sydd â chysylltiad gwlanog.

Pa fath o wneuthurwyr fydd yno? 

Fe fydd dros 20 o stondinau yn y ffair a phob un yn unigryw. Fe fydd blancedi Cymraeg hen a newydd, nwyddau wedi eu gwau a chrosio, dillad, bagiau, a chlustogau o bob math. Bydd eitemau wedi eu huwchgylchu o hen bethau gwlân a chyfle i weld arddangosfa o wehyddu ar wŷdd. Hefyd, wrth gwrs, bydd cyfle i weld yr Amgueddfa Wlân.

Bydd nwyddau sydd wedi’u croshio yn y ffair

Mae’r adeilad mewn hen felin wlân gyda pheiriannau ac offer o oes aur y diwydiant yng Nghymru. Mae orielau diddorol sy’n llawn o bethau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. Mae caffi bendigedig hefyd!

Bagiau

Felly dewch draw i Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre ger Llandysul ddydd Sadwrn, Hydref 26 rhwng 10am-4pm. Mae mynediad am ddim.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Cow & Ghost Vintage – cowandghostvintage@gmail.com neu Amgueddfa Wlân Cymru.