Mae pobl yn dwlu ar gael atebion hawdd i’r cwestiynau mawr mewn bywyd.

Fydda i’n dod o hyd i enaid hoff cytûn? Fydda’i yn cael fy swydd ddelfrydol? Ble wnes i adael allweddi’r car? Neu, wrth fynd yn hŷn, ble wnes i adael fy nghar?! Fydd tywydd cynnes y gwanwyn yn cyrraedd yn gynnar eleni, neu’n hwyr?

Yma yn America mae’r pedwar cyntaf i fyny i chi – ond mae’r olaf wedi’i sortio!

Arwydd Punxsutawney

I ateb y cwestiwn pwysig yma am y tywydd, mae pobl yn yr Unol Daleithiau a Chanada yn dathlu “Diwrnod Groundhog” bob blwyddyn ar 2 Chwefror.

Ar y dyddiad yna, ‘dyn ni’n edrych i Punxsutawney, Pennsylvania ar gyfer rhagolwg tywydd y flwyddyn gan drigolyn enwocaf y dre: Punxsutawney Phil.

Punxsutawney Phil

Twrlla yw Phil. Bob blwyddyn ar 2 Chwefror, mae Phil yn dod allan o’i dwll ac yn edrych o gwmpas.

Mae’n hen draddodiad o’r enw “Candlemas” sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif yn yr Almaen [neu Ŵyl Fair y Canhwyllau yma yng Nghymru]. Yn ôl y traddodiad, os yw Phil yn gweld ei gysgod ac yn mynd yn ôl i mewn i’w dwll, bydd y tywydd gaeafol yn parhau am chwe wythnos arall. Fel arall, bydd y gwanwyn yn cyrraedd yn gynnar, ac yn dod â thywydd cynhesach cyn bo hir.

Heblaw am drigolion Punxsutawney, dyw’r rhan fwya’ o bobl ddim yn cymryd rhagolwg tywydd Phil o ddifri. Ond mae un peth am Ddiwrnod Groundhog sy’n bwysig iawn i fi – y ffilm!

Mae Pawlie yn barod i ddathlu Diwrnod Groundhog

Y ffilm

Cafodd y ffilm Groundhog Day ei rhyddhau yn 1993. Bill Murray, Andie McDowell, a Chris Elliott ydy sêr y ffilm.

Mae’n stori gomedi-ffantasi am gyflwynydd tywydd ar y teledu sy’n cael ei ddal yn sownd ar yr un diwrnod o’r flwyddyn.  Mae’n golygu bod yn rhaid iddo ail-fyw Diwrnod Groundhog drosodd a throsodd – nes iddo sylweddoli beth sy’n bwysig mewn bywyd, a dod yn berson gwell.

Yn 1994, roedd sgriptiwr y ffilm, Danny Rubin, a’r cyfarwyddwr Harold Ramis wedi ennill BAFTAs.

Yna yn 2014, dechreuodd Danny Rubin gydweithio gyda Tim Minchin – cyfansoddwr, cerddor, canwr, ysgrifennwr, ac actor o Awstralia – i greu fersiwn sioe gerdd o’r ffilm ar gyfer y llwyfan.

Agorodd Groundhog Day: The Musical yn Llundain yn yr Old Vic yn 2016, yna ar Broadway yn Efrog Newydd yn 2017. Cafodd y ddrama ei henwebu am wyth Gwobr Laurence Olivier a saith Gwobr Tony gan ennill un Oliver ac un Tony.

Efallai taw hen draddodiad ofergoelus yw hanes Phil, ond mae’r ffilm a’r sioe gerdd yn anhygoel.

Gwanwyn Hapus i chi gyd – gobeithio!