Mae heddiw (dydd Mawrth, 14 Mai) yn Ddiwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari. Mae llawer o weithgareddau wedi cael eu trefnu i ddathlu’r diwrnod arbennig yma. Magyar Cymru sydd wedi trefnu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari. Cafodd Magyar Cymru ei sefydlu yn 2019 gan Balint Brunner. Cafodd Balint Brunner ei eni yn Bwdapest yn Hwngari. Rŵan mae o’n byw ym Mhenmaenmawr, Sir Conwy. Mae o’n dysgu Cymraeg.

Mae o eisiau adeiladu pontydd rhwng diwylliant Cymru a Hwngari. Mae Magyar Cymru yn sefydliad nid-er-elw sy’n trefnu digwyddiadau i ddathlu diwylliant Cymru a Hwngari.

Yma mae Balint Brunner yn dweud mwy am Ddiwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.

Dathlu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari yn Nhrefladwyn yn 2022

Balint, pryd ddechreuodd Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari a sut mae’n cael ei ddathlu?

Wnaethon ni gynnal digwyddiad hanesyddol yn Nhrefaldwyn ym Mhowys ar 14 Mai 2022. Mae gan Drefaldwyn gysylltiad gyda Hwngari. Dyma le cafodd y gerdd Hwngaraidd o’r enw ‘Beirdd Cymru’ ei gosod. Mae’r gerdd yn 160 oed ac mae pob plentyn yn Hwngari yn gorfod dysgu’r gerdd yn yr ysgol.

Roedd tua 400 o bobl o Hwngari a Chymru wedi dod at ei gilydd yn Nhrefaldwyn i ddathlu ein cysylltiadau diwylliannol. Roedd plac yn cael ei ddadorchuddio, dawnsio gwerin Hwngari yn y castell, darllen barddoniaeth, ffair grefftau a llawer mwy. Wna’i byth anghofio pan ganodd pawb anthemau Cymru a Hwngari gyda’i gilydd – moment emosiynol iawn! Er mwyn dathlu’r diwrnod arbennig hwn a’n cysylltiadau diwylliannol amrywiol, wnes i gyhoeddi 14 Mai yn Ddiwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari.

Bob blwyddyn, rydym yn annog pobl a sefydliadau i ymuno â’r dathliadau gyda’u digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain.

Dathlu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari yn Nhrefladwyn yn 2022

Pa ddigwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu eleni a pwy fydd yn cymryd rhan?

Y llynedd, wnaethon ni weithio gyda rhai cwmnïau gwych i drefnu digwyddiadau ledled Cymru a Hwngari. Roedd sesiynau blasu gwin Hwngari ym Machynlleth, Aberystwyth a Dolgellau. Roedd bar poblogaidd yng nghanol Bwdapest wedi cynnal noson Gymreig gyda dau goctel wedi’u gwneud yn arbennig yn cynnwys wisgi Penderyn.

Eleni, mae’r ffocws ar gerddoriaeth a dawns. Rydyn ni’n gyffrous iawn i fod yn cynnal digwyddiad Cymraeg-Hwngari yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn yma (18 Mai), gyda’r cerddor Gwilym Bowen Rhys a DunAvon, grŵp dawnsio gwerin Hwngari poblogaidd o Fryste. Fedra’ i ddim aros i allu cyflwyno mwy o bobl Hwngari i brydferthwch cerddoriaeth werin Gymreig a’r iaith Gymraeg… ac i ddangos dawns werin Hwngari i’n ffrindiau Cymreig. Mae croeso i bawb!

Mae pobl eraill hefyd yn cynnal eu gweithgareddau eu hunain eleni. Bydd gweithdai celf Cymraeg-Hwngari ym Mhontypridd a thrafodaeth lenyddol yng Nghaerdydd. Yn y cyfamser, bydd y rhai sy’n ymweld â Thŷ Cerddoriaeth eiconig Bwdapest heddiw (14 Mai) yn clywed cerddoriaeth Gymraeg yn yr adeilad trwy’r dydd.

Dathlu Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari yn Nhrefladwyn yn 2022

Sut mae Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari wedi datblygu?

Dyma’r trydydd Diwrnod Cyfeillgarwch Cymru-Hwngari ac mae’n mynd yn fwy bob blwyddyn. Mae gynnon ni lawer o gynlluniau ar gyfer mis Mai nesaf, a bydd yn bendant yn cynnwys digwyddiad cerddoriaeth a dawns yn ne Cymru!

Mae tocynnau ar gael ar gyfer nos Sadwrn (18 Mai) yma.