Mae Rajan Madhok yn dod o India yn wreiddiol. Nawr, mae’n byw yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd.

Mae Rajan wedi sefydlu RICE (Cysylltiadau Diwylliannol Rhuthun India). Mae cysylltiad hir rhwng Cymru ac India. Bwriad RICE ydy hyrwyddo diwylliant a thraddodiadau’r ddwy wlad. Mae RICE yn cynnal rhai digwyddiadau yn Nant Clwyd y Dre yn Rhuthun.

Mae Rajan hefyd ar fwrdd Mwy na Geiriau. Dyma gynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yma mae Rajan yn ateb cwestiynau Lingo360…

Beth ydy eich cefndir?

Dw i’n dod o India yn wreiddiol. Roedd fy nheulu yn dod o Bacistan ond wedi symud i India ar ôl y rhaniad yn 1947.  Mi ges i fy ngeni a fy magu yn Delhi. Wnes i astudio meddygaeth a wnes i ddod draw i Brydain yn 1980 i weithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Dw i wedi byw a gweithio mewn llawer o lefydd ar draws y Deyrnas Unedig. Roedd fy swydd gyntaf yn Ynysoedd Shetland.

Pryd wnaethoch chi symud i Gymru a pham?

Wnes i symud i Gymru yn 2018 ar ôl ymddeol o Fanceinion. Rŵan dw i’n byw yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Roeddwn i eisiau byw yn agosach at fyd natur, i ffwrdd o’r  ddinas, a dw i’n licio cerdded y bryniau. Ysgrifennais i draethawd am Gymru.

Ro’n i eisiau gwybod mwy am Gymru ac ystyr ‘Cymreictod’:

Beth ydy ystyr bod yn Gymro?

Ydy hi’n iaith neu grefydd?

Ai am fod rhywun wedi ei eni yma

Neu yn rhywbeth arall?

Felly dw i’n mynd i gael gwybod

Dyma be dw i wedi deall

A pham dw i’n teimlo fel Cymro rŵan 

Diolch yn fawr i bawb am eich croeso cynnes  

Rajan Madhok gyda’i bartner Helen yn dathlu Diwali

Dach chi’n mynd yn ôl i India yn aml?

Nac ydw, roeddwn i’n arfer mynd yn aml pan oedd fy mam yn fyw. Wedi iddi farw dw i’n mynd yn llai aml. Y tro olaf i mi fynd yno oedd mis Tachwedd y llynedd. Wnes i fynd i Shillong, yng ngogledd ddwyrain India, i ddysgu mwy am waith y cenhadon yno. Y Parch Thomas Jones oedd y cenhadwr cyntaf yno yn yr 1840au. Ers hynny, mae llawer mwy o bobl wedi ymweld a gweithio yno.

Ers pryd dach chi’n dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd efo Popeth Cymraeg. Dw i’n ddysgwr araf ond dw i’n mwynhau ac mi fydda’ i’n mynd i [Ganolfan Iaith] Nant Gwrtheyrn mis yma i ddysgu mwy ac ymarfer. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant.

Beth dach chi’n hoffi am India? 

Mae India yn wlad fawr ac yn wahanol iawn o ran daearyddiaeth a diwylliant. Does dim jest un India! Wrth gwrs, mae pawb wedi clywed am y Taj Mahal neu Goa ond mae yna lawer o lefydd hyfryd, bwydydd blasus, a 23 iaith swyddogol. Ond y bobl sy’n gwneud India yn arbennig.

Rajan mewn digwyddiad yn Nant Clwyd y Dre lle’r oedd telyn yn cael ei hanfon i Shillong yn India

Beth dach chi’n hoffi am Gymru? Oes rhai pethau’n debyg rhwng y ddwy wlad?

Dw i’n hoffi natur a phobl Cymru. Ro’n i’n synnu pan ddes i yma bum mlynedd yn ôl bod pobl yn gwybod am India ac eisiau dysgu mwy ac felly roeddwn i wedi sefydlu RICE (Cysylltiadau Diwylliannol Rhuthun India). Y bwriad ydy hyrwyddo diwylliant a thraddodiadau Cymru ac India drwy adeiladu ar y cysylltiad hir rhwng y ddwy wlad. Weithiau dan ni’n cynnal rhai digwyddiadau yn Nant Clwyd y Dre, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi a Diwali.

Beth dach chi’n hoffi gwneud yn eich amser sbâr?

Dw i’n hoffi darllen, yn arbennig am Gymru, cerdded ar y bryniau a gweithio ar fy rhandir – dw i wrth fy modd yn clirio’r chwyn! Dw i hefyd yn cefnogi rhai sefydliadau lleol fel ymddiriedolwr gan gynnwys AHNE [Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol] Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.