Dach chi’n dysgu Cymraeg ond yn cael problem cofio ystyr rhai geiriau? Mae’r artist Joshua Morgan o Gaerdydd yn cynnal gweithdy ar gampws Prifysgol Llanbed ddydd Sadwrn, 1 Mehefin. Y syniad ydy darlunio ymadroddion a geiriau newydd i helpu dysgwyr i’w cofio’n well.

Joshua oedd wedi dechrau’r prosiect ‘Sketchy Welsh’ lle mae’n rhannu darluniau ac ymadroddion Cymraeg. Dyma oedd wedi ei helpu e i ddysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ôl.

Mae e wedi cyhoeddi llyfr Cymraeg  Thirty One Ways to Hoffi Coffi i helpu dysgwyr eraill. Yma mae e’n ateb cwestiynau Lingo360

Un o ddarluniau Joshua Morgan

Joshua, beth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod y gweithdy?

Ers i fi ddechrau fy ymgyrch i ddarlunio’r iaith Gymraeg byddaf yn rhannu fy nhaith hyd yn hyn, ac yn rhoi cyfle i bobl ymuno â rhan o’r daith yma. Byddaf yn dangos sut dw i wedi bod yn darganfod ymadroddion defnyddiol a geiriau newydd ac yn eu darlunio i gysylltu â’u hystyr a’u gwneud yn fwy cofiadwy. Bydd llawer o siarad, wrth gwrs, darlunio, chwarae gemau, a digon o amser i drochi yn y Gymraeg a chreu llawer o atgofion hwyliog ac unigryw.

Sut gall animeiddio helpu pobl i ddysgu iaith?

Mae sain yn bwysig iawn mewn iaith ond mae llawer o bobl yn ddysgwyr gweledol hefyd.

Rydyn ni i gyd yn fwy tebygol o gofio neu gysylltu â rhywbeth os yw’n ddoniol, hardd, rhyfedd, neu’n cyfleu rhyw elfen o stori. Gallwch chi wneud yr holl bethau hynny trwy ddarlunio. Egwyddor/syniad y ‘Baker Baker’ yw nad ydym yn debygol iawn o gofio bod rhywun yn cael ei alw’n ‘Mr Baker’ ond os ydyn ni’n gwybod bod rhywun yn gweithio fel ‘baker’ gallwn ddychmygu’r person mewn cegin gyda het wedi’i gorchuddio â blawd a dydyn ni ddim yn anghofio fe’n hawdd.

Un o ddarluniau

Mae wedi fy helpu yn sicr. Mae cysylltu dysgu Cymraeg gyda beth ti’n mwynhau bob amser yn syniad da dw i’n meddwl.

Oes angen i bobl gael profiad o fraslunio/gwaith celf i gymryd rhan yn y gweithdy?

Dim o gwbl. Byddaf yn dangos i bobl sut y dechreuais i ddarlunio yn wreiddiol. Bydden ni’n defnyddio llawer o Gymraeg hwyliog a defnyddiol ar hyd y ffordd. Mae’r sesiwn yn dal i fod yn ddefnyddiol ac yn bleserus i fi ac mae’r un mor hygyrch i ddechreuwyr.

Beth yw oedran y rhai fydd yn cymryd rhan yn y gweithdy?

Mae’r gweithdy ar y dydd Sadwrn yn anffurfiol ac ar gyfer y teulu cyfan. Mae croeso i bob oed!

Beth ydych chi’n gobeithio bydd pobl yn ei ddysgu yn ystod y gweithdy?

Dw i’n gobeithio y bydd llawer o eiriau newydd wedi’u dysgu dros y penwythnos yn ogystal â thechnegau i bobl i fwynhau defnyddio’r iaith trwy eu taith ddysgu. Dw i’n gyffrous fy hunan i fod yn mwynhau, archwilio a siarad am y Gymraeg dros y penwythnos! Dw i’n credu’n gryf nad ydy’r broses o ddysgu Cymraeg yn faich er mwyn dod yn rhugl ond mae’n bleser na ddylwn ni ei golli.

Mae’r gweithdy wedi cael ei drefnu gan Nia Llywelyn, sylfaenydd Hwyliaith. Mae’r gweithdy am ddim ond mae’n rhaid archebu lle. Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 1 Mehefin rhwng 2-4pm. Ffoniwch Nia ar 07770623962 neu ebostio: codihyder@gmail.com

Mae Hwyliaith yn cynnal penwythnosau ac wythnosau yng Ngarth Newydd yn Llanbed, Ceredigion i godi hyder dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg. Bydd Hwyliaith yn lansio pecyn i deuluoedd o’r enw Gwneud a Dweud yn yr Hydref. Gwyliwch am wefan newydd Hwyliaith (www.hwyliaith.cymru)