Mae Irram Irshad yn fferyllydd o Gaerdydd sy’n caru hanes. Y tro yma mae hi wedi bod i’r Wyddgrug ac wedi dysgu mwy am yr awdur enwog Daniel Owen…
Y tro yma, yn lle sgwennu am adeilad neu le hanesyddol, dw i’n edrych ar dref ac awdur enwog oedd wedi’i eni a’i fagu yno.
Mae’r Wyddgrug yn dref hardd yn Sir y Fflint ar Afon Alun. Wnes i ymweld â’r Wyddgrug ym mis Medi 2023. Roedd hi’n ddiwrnod sych a’r dref yn brysur ond roedd rhywbeth am Yr Wyddgrug oedd wedi gwneud i mi syrthio mewn cariad gyda hi. O’r siop lyfrau Gymraeg, Siop Y Siswrn, i Amanda’s Fabrics a siop melysion Spavens, roedd y plentyn mawr yma yn ei seithfed nef!
Gan fy mod i’n hoffi hanes, pan dwi’n mynd i lefydd newydd dw i bob amser yn edrych ar y gwahanol adeiladau. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cymysgedd o adeiladau hen a modern. Ond roedd gen i ddiddordeb arbennig yn yr hen adeiladau a’r eglwysi, ac roedd placiau glas ar nifer ohonyn nhw.
Daniel Owen
Roedd un enw yn bwysig iawn yn y dref ond doeddwn i erioed wedi clywed amdano, sef Daniel Owen. Pwy oedd Daniel Owen? Wel, nofelydd Cymraeg oedd Daniel Owen. Mae’n cael ei ystyried yn nofelydd Cymraeg mwyaf blaenllaw’r 19eg ganrif. Fel awdur fy hun, ro’n i’n teimlo cywilydd fy mod i ddim yn gwybod amdano.
Cafodd Daniel Owen ei eni yn Yr Wyddgrug ar 20 Hydref yn 1836. Roedd ei dad yn löwr. Roedd ei fam yn perthyn i deulu Thomas Edwards, oedd hefyd yn fardd ac yn awdur. Yn 1837, cafodd tad Daniel a’i ddau frawd eu lladd mewn damwain yn y pwll glo. Roedd hyn wedi achosi caledi mawr i’r teulu. Pan oedd yn 12 oed, aeth Daniel Owen i weithio fel prentis i’r teiliwr, Angel Jones. Roedd cydweithiwr yno wedi ei annog i ysgrifennu barddoniaeth.
Roedd Daniel Owen yn sgwennu barddoniaeth o dan y ffugenw Glaslwyn. Roedd wedi cystadlu mewn Eisteddfodau lleol a chyhoeddi rhai darnau o’i waith. Roedd wedi disgrifio ei nofel gyntaf Y Dreflan fel fersiwn ffuglennol o’r Wyddgrug. Wedyn daeth y nofelau Rhys Lewis, Enoc Huws a Gwen Tomos. Mae ei nofelau wedi cael eu cymharu â gwaith Charles Dickens.
Roedd Daniel Owen wedi bwriadu bod yn weinidog ond nid oedd wedi cael ei ordeinio. Roedd wedi mynd yn ôl i weithio fel teiliwr yn yr Wyddgrug er mwyn cynnal ei deulu. Roedd mewn iechyd gwael am nifer o flynyddoedd. Bu farw yn 1895, ddeuddydd ar ôl ei ben-blwydd yn 59 oed.
Mae’n cael ei gofio heddiw gyda Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r wobr yn cael ei rhoi am nofel sydd heb ei chyhoeddi. Doedd neb wedi ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni oherwydd doedd y nofelau ddim yn ddigon da!
Mae’r Wyddgrug hefyd yn cynnal gŵyl ddiwylliannol bob blwyddyn ym mis Hydref sy’n dathlu bywyd a gwaith Daniel Owen. Dylen ni gofio a dathlu mawrion llenyddol Cymraeg bob amser. Diolch i’r Wyddgrug am ddiwrnod mor braf ac addysgiadol!